Newyddion y Coleg
Addysgwyr ysbrydoledig yn ennill gwobr addysgu genedlaethol am waith trawsnewidiol
Mae tîm addysgu o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Gwobr Arian yng nghategori Tîm Addysg Bellach y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson eleni.
Cafodd tîm e-Chwaraeon y Coleg eu dewis o blith miloedd o enwebeion a byddant nawr yn cael cyfle i ennill y Wobr Aur nodedig iawn, a gaiff ei chyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn Llundain ac ar raglen BBC1 The One Show yn nes ymlaen eleni.
Darllen mwy
Coleg Gŵyr Abertawe a The Secret Hospitality Group yn lansio academi gydweithredol i feithrin talent a gyrfaoedd lletygarwch
Mae Coleg Gŵyr Abertawe a The Secret Hospitality Group yn falch o gyhoeddi lansiad eu partneriaeth newydd sbon: Academi The Secret Hospitality Group x Coleg Gŵyr Abertawe, menter ddeinamig sydd â’r nod o ysbrydoli, datblygu a meithrin talent newydd yn y diwydiant lletygarwch.
Mae’r bartneriaeth hon yn bwriadu codi proffil lletygarwch fel dewis gyrfa gwerth chweil wrth greu llwybrau uniongyrchol i ddysgwyr.
Coleg Gŵyr Abertawe yn Amlygu Addysg Oedolion a Chelfyddydau yng Ngŵyl Dysgu UNESCO 2025
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn cymryd rhan yng Ngŵyl Ddysgu UNESCO Abertawe eleni ar ddydd Sadwrn 14 Mehefin. Fel rhan o ddathliad blwyddyn o hyd y ddinas i nodi 10fed pen blwydd Abertawe fel Dinas Ddysgu UNESCO, bydd myfyrwry Celfydydau Perfformio’r Coleg a dau fand o’r coleg yn perfformio yn fyw. Fel Coleg, byddwn yn cynnig sesiynau blasu ar ein harlwy gelf, gan ymgysylltu ag unigolion ynghych ein darpariaeth addysg i oedolion.
Darllen mwy
Myfyriwr yn sicrhau lle ar raglen haf yn yr Unol Daleithiau
Mae Regan D, un o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn edrych ymlaen at wyliau haf sy’n wahanol i’r arfer yn 2025, gan ei fod yn un o bedwar myfyriwr yn unig sydd wedi sicrhau lle ar raglen breswyl ym Mhrifysgol Florida.
Bydd Regan, sydd hefyd yn un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun y Gŵyr ac sy’n astudio cyrsiau Safon uwch mewn Saesneg, y Cyfryngau a Chymdeithaseg, yn hedfan i Gainesville yn ystod gwyliau’r haf er mwyn cymryd rhan mewn gweithdai a gynhelir gan Ysgol y Cyfryngau, Cyfathrebu a Newyddiaduraeth y Brifysgol.
Menter lles a menopos Coleg Gŵyr Abertawe yn derbyn llu o enwebiadau ar gyfer gwobrau
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi bod yr holl waith ymroddedig ym maes lles ac ymwybyddiaeth o’r menopos wedi cael ei gydnabod ar raddfa genedlaethol. Rydym wedi cael ein henwebu ar gyfer nifer o wobrau anrhydeddus.
Mae Menter Menopos y Coleg wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Hyfforddiant Prydain yng nghategori Menter Ymwybyddiaeth y Flwyddyn. Yn ogystal, mae menter Lles y Coleg wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Menter Gwasanaeth Cyhoeddus y Flwyddyn. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad yn Llundain ar 8 Gorffennaf.
Mae cyllid Taith yn cynnig cyfleoedd byd-eang cyffrous
Mae Taith yn rhaglen gyfnewid dysgu ryngwladol y mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn falch o gymryd rhan ynddi ers ei lansiad yn 2022. Mae’r fenter hon wedi agor cyfleoedd cyffrous byd-eang i fyfyrwyr a staff, gan roi modd iddynt deithio i wledydd fel Portiwgal, Sbaen, Canada, yr Iseldiroedd, Gwlad Thai, Seland Newydd, a mwy.
Darllen mwy
Leah yn gwella safon dysgu trwy ennill Gwobr Effaith Drwy Addysg the*gamehers
Mae Coleg Gŵyr Abertawe (GCS) yn falch o gyhoeddi bod Leah Griffiths, ein myfyrwraig TAR a darlithydd mewn Busnes a Thechnoleg, wedi cael ei henwi'n enillydd yng Ngwobrau the*gamehers 2025. Roedd yn fuddugol yn y categori 'Effaith Drwy Addysg'.
Mae buddugoliaeth Leah yn ei gosod ymhlith 100 o fenywod sydd wedi’u hanrhydeddu'n fyd-eang gan the*gamehers, sefydliad sy'n ymroddedig i hyrwyddo lleisiau a chyflawniadau menywod a phobl sy'n uniaethu â menywod o fewn y diwydiant gemau.
Darllen mwy
Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu Rhagoriaeth Chwaraeon mewn Noson Wobrwyo Flynyddol
Roedd hi’n noson o ddathlu a balchder wrth i fyfyrwyr o Academïau Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe ddod ynghyd yn Village Hotel fel rhan o’u Noson Wobrwyo flynyddol. Roedd y digwyddiad yn gyfle i gydnabod gwaith caled, ymroddiad a chyflawniadau rhagorol ein myfyrwyr ar draws ystod eang o gampau.
Fe wnaeth timau rygbi a phêl-droed dynion yn ogystal â thimau phêl-droed a phêl-rwyd menywod fynychu’r digwyddiad, gydag amrywiaeth o wobrau yn cael eu cyflwyno i gydnabod llwyddiannau unigol ac ar y cyd drwy gydol y flwyddyn.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn barod ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2025!
Ymuna â ni ar ein stondin (97-98) ar faes yr Eisteddfod ym Mharc Margam yr wythnos nesaf, lle byddi di’n yn cael cyfle i sgwrsio â myfyrwyr a staff, darganfod yr amrywiaeth o gyrsiau rydyn ni’n eu cynnig a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a hwyl.
Mae gennym rywbeth at ddant pawb - gweithdai byw lle galli di greu potiau blodau, weldio rhithwir, peintio wynebau a phedlo beiciau wat. Archwilia brofiadau DA (VR) anhygoel a gwna’r mwyaf o’r byd Echwaraeon. Bydd digon o weithgareddau ar gael i blant ifanc hefyd!
Darllen mwy
Penodi Kelly Fountain yn Brif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe
Mae un o golegau addysg bellach mwyaf Cymru, Coleg Gŵyr Abertawe, wedi penodi Kelly Fountain yn Brif Swyddog Gweithredol newydd.
Bydd Kelly, sydd wedi gwasanaethu fel Pennaeth y Coleg ers Ionawr 2024, yn trosglwyddo i’w rôl newydd yn dilyn ymddeoliad y Prif Swyddog Gweithredol presennol Mark Jones MBE, yn yr haf.
Daw’r penodiad wrth i’r Coleg baratoi i ffarwelio â Mark Jones, MBE, y mae ei wasanaeth ymroddgar fel Prif Weithredwr wedi sicrhau llwyddiant a chyfeiriad strategol y Coleg dros y 12 mlynedd diwethaf.
Pagination
- Previous page ‹‹
- Page 9
- Tudalen nesaf ››