Skip to main content
myfyrwyr

Coleg Gŵyr Abertawe: galluogi pobl ifanc i wireddu eu huchelgeisiau prifysgol

Mae ein Prif Swyddog Gweithredol, Mark Jones MBE, yn myfyrio ar gyflawniadau anhygoel ein myfyrwyr, rôl hollbwysig addysg bellach wrth lunio dyfodol, a sut y gallwn helpu myfyrwyr i symud ymlaen yn llwyddiannus i’r brifysgol.

I ni yma yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae addysg yn fwy na cham ymlaen – mae’n daith drawsnewidiol sy’n grymuso pobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn. 

Heddiw, mae gan fyfyrwyr amrywiaeth eang o ddewisiadau, gan gynnwys addysg uwch, prentisiaethau a chyflogaeth. I lawer, mae’r brifysgol yn parhau i fod yn ddyhead allweddol ac mae’n llwybr hollbwysig i ddatgloi cyfleoedd newydd, gan ennill sgiliau gwerthfawr a chyflawni llwyddiant hirdymor.

Dros flynyddoedd lawer, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi meithrin enw da am ragoriaeth academaidd, yn enwedig mewn darpariaeth Safon Uwch, gyda thros 1,300 o fyfyrwyr wedi’u cofrestru ar hyn o bryd mewn pynciau yn amrywio o fathemateg, y gwyddorau, y celfyddydau, busnes a’r dyniaethau. Fodd bynnag, nid yw addysg uwch yn gyfyngedig i lwybrau Safon Uwch. Rydym yn ymfalchïo’n fawr iawn yng nghyflawniadau ein myfyrwyr galwedigaethol Lefel 3 mewn meysydd fel peirianneg, digidol, busnes, ac iechyd a gofal cymdeithasol - y mae llawer ohonynt yn sicrhau lleoedd mewn prifysgolion blaenllaw ledled Cymru a’r DU.

Bob blwyddyn, mae mwy na 1,000 o’n myfyrwyr yn gwneud cais i astudio yn y brifysgol. Ym mlwyddyn academaidd 23/24, fe wnaeth 60% o’n dysgwyr Lefel 3 symud ymlaen i addysg uwch, ac fe wnaeth 61% o’r rheini ddewis sefydliadau Cymreig poblogaidd fel Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru, gyda 39% yn penderfynu astudio ymhellach i ffwrdd, gan ddewis prifysgolion seiliedig ar gyrsiau arbenigol a pharu eu dewisiadau ag uchelgeisiau gyrfaol hirdymor.

Rydym yn arbennig o falch eleni bod 14 o’n myfyrwyr eisoes wedi derbyn cynigion yn ddiweddar gan sefydliadau nodedig Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt – cyflawniad sy’n tynnu sylw at yr addysgu, yr arweiniad a’r cyfleoedd eithriadol sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Trwy fentrau fel Rhaglen Seren Llywodraeth Cymru ac ymroddiad ardderchog ein staff addysgu, rydym yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i fyfyrwyr galluog, gan sicrhau bod ganddynt fynediad i’r gweithgareddau cyfoethogi, y fentoriaeth a’r cyngor sydd eu hangen i gyflawni eu potensial llawn.

Un o’r camdybiaethau mwyaf cyffredin am addysg bellach yw nad yw cymwysterau galwedigaethol yn arwain at y brifysgol. Mae’r realiti yn wahanol iawn. Ein rôl ni yw sicrhau bod pob myfyriwr yn dod i hyd i’r llwybr iawn, boed hynny yn addysg uwch, yn brentisiaethau neu yn fynediad uniongyrchol i gyflogaeth. Mae dysgwyr galwedigaethol yn profi drosodd a thro bod ganddynt y sgiliau a’r uchelgais i ragori mewn lleoliadau prifysgol, gan atgyfnerthu pwysigrwydd llwybrau dilyniant amrywiol a hyblyg.

Mae addysg uwch yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd i nifer o’n dysgwyr, ac mae ein cenhadaeth yn glir - ysbrydoli dyfodol uchelgeisiol a grymuso myfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus. P’un a yw eu taith yn arwain at brifysgol Russell Group, sefydliad arbenigol, prentisiaeth, neu yn syth i’r gweithlu, mae ein hymrwymiad yn parhau i fod yr un fath - rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn byd sy’n newid byth a hefyd.