Skip to main content

Addysg Uwch

Astudiwch yn nes at eich cartref

Mae gennym enw cryf eisoes am addysg bellach ond a wyddoch chi fod dros gant o bobl bob blwyddyn yn astudio ar gyfer cymhwyster addysg uwch (AU) gyda ni?

Rydym yn cynnig Graddau, Graddau Sylfaen, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC), Diplomas Cenedlaethol Uwch (HND) a chymwysterau proffesiynol – gyda sefydliadau addysg uwch blaenllaw yng Nghymru yn dilysu llawer o’n cyrsiau.

Mynd i'r cyrsiau

Logo Prifysgol Caerdydd
Logo Prifysgol Abertawe
Logo Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Logo Prifysgol de Cymru
Logo Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Logo QAA Cymru. Sicrwydd Ansawdd u DU.

Graddio

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn falch o gydnabod cyflawniadau a gwaith caled ein Myfyrwyr Addysg Uwch mewn seremoni raddio flynyddol.

Rhagor o wybodaeth

Pam astudio AU gyda ni?

  1. Canolfan Brifysgol Bwrpasol
  2. Dosbarthiadau llai o faint
  3. Digon o gymorth
  4. Dulliau addysgu hyblyg
  5. Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar swydd neu broffesiwn penodol
  1. Wedi’u dilysu gan brifysgolion blaenllaw
  2. Cyfle i ychwanegu i gael gradd anrhydedd
  3. Cyfleoedd lleoliadau gwaith
  4. Rhagolygon gyrfa gwell
  5. Cysylltiadau cryf â diwydiant

Addysg Uwch wedi'i hesbonio

Yn achos gradd Baglor, byddwch yn astudio un neu ddau bwnc yn fanwl. Hon yw’r radd israddedig fwyaf cyffredin yn y DU ac mae’n gymhwyster lefel chwech. Fel arfer mae’n cymryd tair blynedd i’w chwblhau os byddwch yn astudio’n amser llawn. Un enghraifft yw’r radd Baglor yn y Celfyddydau (BA).

Mae prentisiaeth gradd yn rhoi modd i chi ennill gradd israddedig lawn wrth i chi weithio. Mae’n cymryd tair i chwe blynedd i gwblhau prentisiaethau gradd, yn dibynnu ar lefel y cwrs. Yn gyffredinol, byddwch yn treulio 80% o’ch amser yn gweithio ac 20% o’ch amser yn astudio. Fel arfer, byddwch yn dod i’r Brifysgol neu’r Coleg un diwrnod yr wythnos.

Mae graddau sylfaen yn gymwysterau sy’n cyfuno astudiaethau academaidd ag elfen o leoliad gwaith.

Wedi’u dylunio ar y cyd â chyflogwyr, maen nhw’n gymwysterau sy’n rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth perthnasol i bobl fel y gallant gyflawni canlyniadau academaidd a gwella perfformiad a chynhyrchedd yn y gweithle.

Mae graddau sylfaen yn canolbwyntio ar swydd neu broffesiwn penodol. Eu bwriad yw cynyddu sgiliau proffesiynol a thechnegol staff mewn proffesiwn neu bobl sy’n bwriadu mynd i mewn i’r proffesiwn hwnnw.

Maen nhw’n gyfwerth â dau draean o radd anrhydedd lawn a gall cyrsiau fod yn amser llawn neu’n rhan-amser.

Bydd gradd sylfaen amser llawn yn cymryd dwy flynedd i’w chwblhau a gall cyrsiau rhan-amser gymryd mwy o amser. Bydd opsiwn i fynd ymlaen i wneud gradd anrhydedd lawn ar y diwedd. Bydd hyn fel arfer yn cymryd blwyddyn ychwanegol.

Mae Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC) a Diplomas Cenedlaethol Uwch (HND) yn gyrsiau cysylltiedig â gwaith sydd fel arfer yn ceisio paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa benodol.

Yn annhebyg i nifer o gyrsiau gradd, maen nhw’n canolbwyntio ar alwedigaeth/swydd ac felly gallant arwain yn syth at yrfa.

Mae’r HNC yn un lefel yn is na’r HND ac yn gyffredinol mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf prifysgol. Mae’n cymryd dwy flynedd i gwblhau cwrs rhan-amser.

Mae’r HND yn un lefel yn uwch na’r HNC ac mae’n gyfwerth â dau draean o radd anrhydedd lawn. Mae’n cymryd dwy flynedd i’w chwblhau. Gallwch ychwanegu ato a’i droi yn radd.

Cysylltir cymwysterau proffesiynol â dewisiadau gyrfa penodol a gydnabyddir gan y cyrff proffesiynol perthnasol (megis CMI, CIM, CIPD).

Mae ardystiadau proffesiynol yn profi bod gan rywun yr wybodaeth, y profiad a’r sgiliau i wneud swydd benodol a bod yr unigolyn hwnnw wedi cyflawni lefel o gymhwysedd a gydnabyddir.

Mae ennill cymhwyster proffesiynol yn gallu cynnig manteision fel mynediad i’r yrfa o’ch dewis, dyrchafiad neu gynnydd mewn cyflog.

Cer am dro o amgylch ein Canolfan Prifysgol a ddefnyddir gan ein myfyrwyr addysg uwch yn unig. Mae’r Canolfan Prifysgol yn cynnwys sawl ystafell ddosbarth, llyfrgell ac ystafell gyffredin. Mae gwagle a chefnogaeth y ganolfan yn sicr o hwyluso eich astudiaethau.