Digwyddiadau a Nosweithiau Agored
Nosweithiau agored
Mae ein nosweithiau agored yn rhoi’r cyfle perffaith i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Ymunwch â ni i ddarganfod yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael, cwrdd â’r darlithwyr, a chael yr atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych.

17 Mawrth
Noson agored amser llawn
5.30-7.30pm
Campws Gorseinon
Dewch i’r noson agored hon i ddysgu rhagor am gyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol.

19 Mawrth
Noson agored amser llawn

24 Mawrth
Noson agored amser llawn
5.30-7.30pm
Campws Tycoch
Dewch i’r noson agored hon i ddarganfod mwy am gyrsiau galwedigaethol mewn ystod eang o feysydd.

27 Mawrth
Noson agored amser llawn
5.30-7.30pm
Campws Llwyn y Bryn
Dewch i’r noson agored hon i ddarganfod mwy am gyrsiau galwedigaethol mewn meysydd creadigol.

20 Mehefin
Ffair prentisiaethau
Campws Tycoch
Mae ffair recriwtio Coleg Gŵyr Abertawe’n gyfle i ddarganfod mwy am ein darpariaeth prentisiaethau uchel ei barch, gan ddechrau ar daith drawsnewidiol tuag at yrfa gwerth chweil!

1 Gorffennaf
Noson agored addysg i oedolion
Campws Tycoch
Darganfyddwch gyfleoedd newydd yn ein Noson Agored i Oedolion - archwiliwch addysg ran-amser, uwch ac opsiynau prentisiaethau!

9 Medi
Noson agored addysg i oedolion
Campws Tycoch
Darganfyddwch gyfleoedd newydd yn ein Noson Agored i Oedolion - archwiliwch addysg ran-amser, uwch ac opsiynau prentisiaethau!