Cynlluniau Strategol
Cynllun Strategol 2025-2029
Ysbrydoli Dyfodol Uchelgeisiol. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn credu mai addysg yw’r offeryn mwyaf pwerus ar gyfer newid. Mae ein Cynllun Strategol yn darparu fframwaith clir ar gyfer cyflwyno addysg, sgiliau a hyfforddiant o ansawdd uchel sy’n trawsnewid bywydau ein dysgwyr, cyflogwyr a’r gymuned ehangach.
Strategaeth Ddigidol 2026-2030
Ein nod yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yw parhau i gael ein hadnabod fel arloeswr digidol. I wneud hyn, byddwn ni’n adeiladu ar ein sgiliau a’n galluoedd presennol er mwyn rhoi mynediad i unigolion at dechnolegau modern sy’n ysbrydoli ac yn gwella canlyniadau i bawb.