Strategaeth
Addysg
Uwch
2025-2029
Cyflwyniad
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dymuno sefydlu ei hun fel darparwr Addysg Uwch blaenllaw iawn er mwyn diwallu anghenion sgiliau cyflogwyr a dysgwyr. Wrth benderfynu ar Strategaeth Addysg uwch newydd, mae’n bwysig ein bod yn rhoi ystyriaeth i dirwedd addysg uwch Cymru ar hyn o bryd a’r ystod o heriau a chyfleoedd cysylltiedig. Dwy o’r heriau sy’n ein hwynebu yng Nghymru yw:
- Y ganran gymharol isel o oedolion sy’n meddu ar gymwysterau Lefel 4 ac uwch
- Y niferoedd cymharol isel o bobl ifanc 18 oed sy’n gwneud cais i astudio yn y brifysgol.
Hefyd, mae angen i ni ystyried yr heriau ariannol y mae pob prifysgol yn eu hwynebu. Mae’r heriau ariannol hyn yn debygol o arwain at doriadau o ran cyrsiau, llai o gyfleoedd i fyfyrwyr ac o bosibl hyd yn oed llai o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth.
Fel darparwr addysg uwch, dylem fod yn gofyn beth allwn ni ei wneud i helpu a beth ddylem ni ei wneud. Felly, dyma’r rheswm pam rydym wedi dewis diweddaru Strategaeth Addysg Uwch y Coleg.
Mae llawer o bethau y mae angen i’r strategaeth hon fynd i’r afael â nhw - materion megis profiad myfyrwyr AU yn y Coleg, arbenigedd staff, gwybodaeth a chymwysterau, asesu ansawdd, marchnata ac ati - ond credaf fod dau brif faes busnes allweddol y mae’n bwysig inni fynd i’r afael â nhw yn y strategaeth hon.
Y maes cyntaf yw datblygu cwricwlwm - pa gyrsiau y dylem fod yn eu datblygu a’u darparu, pennu cyflogwyr a sectorau blaenoriaeth, dewis lefelau a dethol ffyrdd a fydd yn cyflwyno hyn oll yn y ffordd orau posib. Mae ein trafodaethau hyd yma gyda chyflogwyr - yn ogystal â llawer o ddarpar fyfyrwyr - yn canolbwyntio llai ar gyrsiau amser llawn Lefel 6 (israddedig). Mae’r trafodaethau bellach yn canolbwyntio’n bennaf ar ddarpariaeth ran- amser Lefel 4 a Lefel 5 a gyflwynir trwy fodiwlau pwrpasol (cymwysterau micro). Mae rhai agweddau o’r cyrsiau hyn yn cael eu cyflwyno ar-lein. Mae angen ystyried hyn oll wrth asesu ein cynnig AB.
Yr ail faes yw achredu a sut i sicrhau mwy o hyblygrwydd wrth ddatblygu ac achredu cyrsiau AU sy’n bodloni anghenion cyflogwyr a myfyrwyr. Mae’r rhan fwyaf o achredu ar hyn o bryd o dan reolaeth Prifysgolion ac ar hyn o bryd mae’n bosib y bydd ganddynt hyd yn oed llai o hyblygrwydd wrth symud ymlaen. Mae angen i ni ddefnyddio mecanwaith lle gellir blaenoriaethu datblygiad cyrsiau er mwyn diwallu anghenion a disgwyliadau ein cyflogwyr. Gallai hynny newid wrth gwrs – a chynyddu efallai - yr ystod o bartneriaethau sydd gennym gyda nifer o Brifysgolion lleol.
Felly, darllenwch ein Strategaeth ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, neu os ydych yn teimlo y gallwch ein helpu i gyflawni ein nodau, cysylltwch â ni.
Kelly Fountain
Prif Swyddog Gweithredol
Cyd-destun strategol
Lluniwyd y strategaeth hon yn ystod cyfnod heriol iawn i’r sector Addysg Bellach (AB), ac rydym ni fel Coleg hefyd wedi profi nifer o heriau a newidiadau. Mae’r heriau hyn yn gysylltiedig ag amodau recriwtio trafferthus o ran sicrhau cofrestiadau newydd, cymhlethdodau ynghylch niferoedd partneriaid SAU (Sefydliadau Addysg Uwch) a’r gwaith o sefydlu corff newydd ym mis Awst 2024 i oruchwylio addysg ôl-orfodol yng Nghymru (Medr). Mae prifysgolion hefyd wedi wynebu heriau ariannol sylweddol ac mae’r lefelau sgiliau o fewn y rhanbarth yn lled-isel. Mae 22% o boblogaeth Abertawe wedi’u haddysgu i Lefel 3 (nid Lefel 4 neu uwch) ac mae Cymru yn gyffredinol yn parhau i feddu ar niferoedd is o bobl sydd wedi’u haddysgu i lefel AU, o gymharu â rhanbarthau eraill y DU.
Fodd bynnag, mae’r heriau hyn yn cynnig cyfleoedd i gyflawni twf. Gall hyn olygu cynnydd mewn niferoedd ein myfyrwyr, ac mae Coleg Gŵyr Abertawe yn chwarae rhan bwysig o ran ymateb i’r heriau hyn drwy ddatblygu sgiliau lefel uwch. Mae strategaeth AU Llywodraeth Cymru yn pwysleisio symudedd a chynhwysiant cymdeithasol, gan ganolbwyntio yn benodol ar ddysgwyr difreintiedig, sydd wrth gwrs yn rhan hollbwysig o genhadaeth y Coleg.
Mae galw cynyddol am lwybrau dilyniant gwell mewn AU, yn enwedig mewn dysgu galwedigaethol a phatrymau darparu hyblyg, ac mae’r rhain yn cyd-fynd yn glir ag Uchelgeisiau, Gweledigaeth a Strategaeth Coleg Gŵyr Abertawe.
Mae’r cyd-destun hwn yn gosod cynsail i Goleg Gŵyr Abertawe ymateb i’r heriau dan sylw a defnyddio cyfleoedd i wella ac ehangu ein darpariaeth AU, gan sicrhau twf a gwella cyfleoedd i’n myfyrwyr.
Fel rhan o’n Cynllun Strategol, ein Gweledigaeth o Ysbrydoli Dyfodol Uchelgeisiol a’n cenhadaeth o Drawsnewid Bywydau trwy Addysg, Sgiliau a Hyfforddiant, nod y strategaeth AU hon yw datblygu Coleg Gŵyr Abertawe i fod yn arweinydd mewn Addysg Uwch mewn Colegau, gan ddarparu sgiliau, y wybodaeth, a’r cyfleoedd sydd eu hangen ar ddysgwyr fel y gallant gyflawni lwyddiant gyrfaol.
Ein Gweledigaeth
Bod yn ddarparwr Addysg Uwch blaenllaw sy’n cynnig darpariaeth o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, gan drosglwyddo sgiliau lefel uwch i’n dysgwyr fel y gallant gyflawni dilyniant llwyddiannus a sicrhau cyflogaeth.
Nodau strategol
Cyfleoedd datblygu’r cwricwlwm a dilyniant
Cynnig llwybrau dilyniant clir, cadarnhaol ac uchelgeisiol ar draws holl feysydd y cwricwlwm galwedigaethol, o lefel mynediad i Addysg Uwch (AU), gan sicrhau dilyniant di-dor a chyfoethogi profiad addysgol ein dysgwyr.
Meithrin partneriaethau cadarn â chyflogwyr
Hybu’r broses o gyd-greu rhaglenni AU sy’n berthnasol i’r diwydiant ac sy’n gwella cyflogadwyedd.
Sicrhau mwy o ymreolaeth o ran ein darpariaeth AU
Meithrin partneriaethau allweddol i gynllunio a chyflwyno cwricwlwm ymatebol, gan geisio sicrhau mwy o hyblygrwydd wrth ddatblygu cyrsiau ac achredu.
Modelau darparu AU hyblyg ac o ansawdd uchel
Defnyddio arbenigedd y Coleg mewn addysgu a dysgu i ddatblygu dulliau hyblyg a digidol sy’n gwella hygyrchedd ac sy’n diwallu anghenion amrywiol dysgwyr.
Datblygu cynnig AU yn unol â gofynion rhanbarthol
Datblygu a gweithredu cyrsiau newydd sy’n diwallu anghenion yr economi leol a sectorau’r diwydiant.
Ymgorffori diwylliant AU cryf yn y Coleg
Hyrwyddo potensial trawsnewidiol AU gan sicrhau bod staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid allweddol yn cydnabod ac yn hybu manteision AU mewn Colegau.
Cyfeiriad strategol
Profiad a chymorth dysgwyr
Ffocws galwedigaethol a phroffesiynol
Pwysleisio cymwysterau galwedigaethol a phroffesiynol sy’n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant er mwyn sicrhau bod graddedigion yn barod am fyd gwaith.
Cymorth o’r radd flaenaf
Darparu gwasanaethau cymorth rhagorol sy’n cydnabod anghenion unigol myfyrwyr AU ac yn gwneud y mwyaf o’u potensial.
Partneriaethau
Rhanddeiliaid fel partneriaid dylunio
Cryfhau cysylltiadau â chyflogwyr lleol a rhanbarthol i sicrhau bod cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill yn bartneriaid wrth ddylunio a chreu darpariaeth newydd, perthnasol.
Cyflogwyr fel partneriaids
Gweithio gyda chyflogwyr a’u hystyried yn bartneriaid gweithredol i ddarparu profiad go iawn e.e. prentisiaethau a lleoliadau gwaith.
Dilyniant
Proffil AU
Trwy strategaeth farchnata AU newydd, hyrwyddo a hybu manteision unigryw Coleg Gŵyr Abertawe fel darparwr addysg uwch galwedigaethol sy’n cynnig llwybrau proffesiynol lefel uwch, cyrsiau galwedigaethol amser llawn a rhan-amser, cyrsiau technegol a phrentisiaeth mewn modd cydlynol.
Cymorth Dilyniant
Ymgysylltu’n weithredol â darpar fyfyrwyr trwy ysgolion, colegau, cyflogwyr a’r gymuned i hyrwyddo cyfleoedd dilyniant a llwybrau gyrfa, gan nodi manteision AU gan gynnwys cyflogadwyedd, cefnogaeth bersonol, a chysylltiadau diwydiant cryf.
Ymreolaeth
Partneriaethau syml
Canolbwyntio ar sefydlu partneriaethau strategol effeithiol a chynnal cydweithrediadau allweddol gyda phrifysgolion a chyrff dyfarnu mewn perthynas â chymwysterau galwedigaethol, technegol a phroffesiynol lefel uwch.
Darparwr addysg alwedigaethol a thechnegol uwch
Ennill statws fel darparwr AU sy’n ymateb anghenion cyflogwyr trwy gynnal gwaith datblygu galwedigaethol a thechnegol hynod berthnasol sy’n cefnogi economi’r rhanbarth.
Darpariaeth hyblyg o ansawdd uchel
Addysgu a dysgu o ansawdd uchel
Dosbarthiadau bach sy’n gwneud defnydd o ddulliau dysgu gweithredol a chynnig cymorth personol i gyfoethogi profiad dysgu.
Cyfleoedd dysgu gydol oes
Cynnig opsiynau dysgu hyblyg sy’n diwallu anghenion, ffordd o fyw a chyfrifoldebau personol dysgwyr.
Diwylliant AU
Cymuned AU ac ymdeimlad o berthyn
Meithrin cymuned AU effeithiol ac adnabyddadwy o fewn y Coleg, gan sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo’n rhan o amgylchedd uchelgeisiol, cefnogol a chynhwysol.
Adnoddau a chyfleusterau
Ymrwymo i sicrhau bod cyfleusterau penodol yn eu lle ar gyfer myfyrwyr AU ynghyd ag adnoddau a chyfleoedd datblygu staff e.e. Mae Cymrodoriaeth yr AAU, QAA a Graddau Uwch yn hybu twf ac ansawdd y ddarpariaeth AU.
Ble byddwn ni ymhen pum mlynedd?
Er ein bod eisoes wedi cyflawni cymaint, credwn y gallwn wneud rhagor eto, a mynd hyd yn oed ymhellach. Gallwn adeiladu ar ein henw rhagorol, ehangu ein twf mewn marchnadoedd presennol a newydd a chael effaith gadarnhaol ar ein dysgwyr, ein staff, ein cyflogwyr a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, gan weithredu fel sefydliad allweddol sy’n mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau yn Abertawe, y rhanbarth lleol ac yn genedlaethol. Trwy weithio gyda phartneriaid allweddol fel Llywodraeth Cymru a Medr, bydd y Coleg yn ceisio cyflawni’r amcanion canlynol.
Ymhen pum mlynedd byddwn ni wedi:
Sefydlu llwybrau dilyniant cynhwysfawr ar draws holl feysydd dysgu cwricwlwm galwedigaethol y Coleg Lefelau 4 a 5, gan gynnwys cymwysterau llawn amser, rhan-amser, proffesiynol, achrededig a safon y diwydiant, gan ddiwallu anghenion cyflogwyr ac LMI.
Cryfhau ein seilwaith AU academaidd sy’n cefnogi darpariaeth AU o ansawdd uchel drwy dîm AU deinamig, cymwys ac ymatebol sy’n darparu profiad rhagorol i’n dysgwyr ac a gydnabyddir gan gyrff allanol e.e. Advance HE, Rhwydweithiau Ansawdd AU ac ati.
Meithrin dulliau addysgu hyblyg mewn perthynas â’n darpariaeth AU a sicrhau ymrwymiad o fwy na dau ddiwrnod o ddarpariaeth gydamaserol i ddysgwyr.
Gwreiddio diwylliant AU nodedig ar draws y Coleg, gan annog staff a dysgwyr i hyrwyddo pŵer trawsnewidiol y Coleg fel darparwr AU cydnabyddedig. Bydd angen hefyd sicrhau bod pob maes cwricwlwm yn gweithredu dilyniant strategol penodol ac yn dathlu dilyniant a chyflawniad yn rheolaidd trwy ddigwyddiadau sefydledig.
Datblygu rhaglenni wedi’u halinio â diwydiant wedi’u creu ar y cyd â chyflogwyr a sicrhau bod gan bob maes gweithredol fwrdd cynghori cyflogwyr gweithredol.
Gweithredu strategaeth farchnata AU ddeinamig sy’n cynyddu cyfraddau recriwtio myfyrwyr, gan wneud Coleg Gŵyr Abertawe yn brif ddewis ar gyfer addysg uwch hygyrch, galwedigaethol sy’n canolbwyntio ar y diwydiant. Bydd hyn yn hybu darpariaeth gyson hyfyw ym mhob maes galwedigaethol.
Gwella cyfraddau dilyniant mewnol i gyrsiau Coleg AU. Mae gan y hwn y nifer uchaf o fyfyrwyr yn symud ymlaen ym mhob maes pwnc anacademaidd ac mae pob maes dysgu yn sicrhau o leiaf un garfan AU amser llawn bob blwyddyn.
Meithrin partneriaethau effeithiol iawn sy’n symlach, yn effeithiol ac yn darparu cyfleoedd cyflogadwyedd chyfleoedd dysgu go iawn a i’n dysgwyr, gan gynnwys lleoliadau gwaith neu gyfwerth fel rhan o’u dysgu.
Sicrhau statws Rheoleiddiwr a symud ymlaen tuag at bwerau dyfarnu graddau sylfaen gan arddangos hygrededd academaidd yn ein darpariaeth addysg uwch a gydnabyddir gan Medr a chyrff ansawdd allanol e.e. QAA.