Skip to main content

Menter CGA

Mae’ch taith entrepreneuriaeth yn cychwyn yma...

  

Sesiynau menter

  

Gweithdai pwrpasol

  

Modelau rôl ysbrydoledig

  

Adnoddau allanol

Eich hyrwyddwyr menter

P’un a oes gennych syniad busnes, mae busnes gennych yn barod neu eisiau dysgu rhagor, cysylltwch â ni!

Cysylltu â’r hyrwyddwyr menter

Mae cymorth Menter CGA ar gael i fyfyrwyr a staff Coleg Gŵyr Abertawe yn unig.

Claire Reid

Claire Reid

Susanne David

Susanne David

Sesiynau menter

Mae gennym amrywiaeth o wersi ar ffurf gweithdy sy’n gallu cynorthwyo staff i addysgu Sgiliau Menter i fyfyrwyr, gan roi’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ddeall sut y gallan nhw fynd ati i gychwyn eu menter eu hunain, a’r holl sgiliau angenrheidiol i fod yn llwyddiannus ar eu taith entrepreneuriaeth.

Mae’r gweithdai canlynol wedi’u cynllunio i ddarlithwyr gyflwyno’n annibynnol gydag adnoddau llawn yn cael eu darparu, ond gallwn greu gweithdai pwrpasol y gellir eu cyflwyno gan Fodelau Rôl Diwydiant.

Enterprise sessions

Adnoddau Allanol

Rydym yn gweithio gyda nifer o asiantaethau allanol sy’n gallu cynnig amrywiaeth eang o gyngor, cymorth ac adnoddau menter;

  • Syniadau Mawr Cymru
  • Sgiliau Bywyd Barclays
  • Menter yr Ifanc
  • Ymddiriedolaeth y Tywysog
  • Natwest
  • Sefydliadau Anllywodraethol.
Big ideas logo
Barclays Life Skills logo
Young enterprise logo
Prince's Trust logo
NatWest logo

Digwyddiadau Menter CGA

Cysylltwch â ni i wybod rhagor neu i’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Marchnad y Nadolig

  Atriwm Tycoch
  Rhagfyr 2024

Y lle perffaith i ddod o hyd i roddion unigryw, danteithion blasus, a hwyl yr ŵyl. Ar agor i’r cyhoedd!

Stondin Anrhegion a Chardiau Sant Ffolant

  Ar draws y campysau
  Chwefror 2025

Stondin dros dro sy’n cynnwys detholiad o anrhegion a chardiau a wnaed â llaw i fynegi’ch cariad a’ch gwerthfawrogiad i eraill (neu i chi’ch hun!).

Marchnad y Gwanwyn

  Atriwm Tycoch
  Ebrill 2025

Dathlwch ddyfodiad y gwanwyn gyda chynnyrch ffres, blodau, a chreadigaethau crefftus braf.

Wythnos Menter Gynaliadwy a Chymdeithasol

  Ar draws y campysau
  Mai 2025

Dewch i ddarganfod cynhyrchion ecogyfeillgar, cysylltu â busnesau pwrpasol, a dysgu am ddatrysiadau ar gyfer dyfodol mwy teg ac amgylcheddol ymwybodol.

Straeon Ysbrydoledig

Wills Petting Farm

Mae William Evans, entrepreneur ifanc a sefydlodd Will’s Petting Farm yn 14 oed, wedi tyfu a datblygu ei fusnes yn llwyddiannus gyda chymorth ein tîm Menter. O anerchiadau addysgol i gyfleoedd i ddod wyneb yn wyneb ag anifeiliaid, mae Will’s Petting Farm yn cynnig ystod eang o wasanaethau sy’n darparu ar gyfer anghenion ac achlysuron amrywiol.

Darllen y stori lawn

Student standing with balloons

Hels Bakes Cakes

Mae Heledd, entrepreneur ifanc ac un o Lysgenhadon y Gymraeg yn ein Coleg, wedi lansio ei busnes pobi, Hels Bakes Cakes, yn llwyddiannus. Gyda chymorth ein tîm Menter, mae Heledd wedi hogi ei sgiliau, ennill profiad gwerthfawr, ac adeiladu sylfaen gref ar gyfer ei hymdrechion yn y dyfodol.

Darllen y stori lawn