Broadway Canolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg
Mae ein myfyrwyr yn darparu triniaethau o’r safon orau sy’n cynnig gwerth da am arian yn ein salonau o safon broffesiynol. Cynigiwn amrywiaeth o wasanaethau steilio a lliwio gwallt gan ddefnyddio’r brandiau salon gorau. Gallwch bampro’ch hunan gyda’r triniaethau harddwch a gofal croen gorau gan gynnwys microdermabrasion a therapi ocsigen yn ogystal â thriniaethau i’r aeliau a’r amrantau, triniaethau i’r dwylo a’r traed a chwyro. Anghofiwch am eich poenau gydag un o’n triniaethau tylino moethus - dewiswch o dylino corff Swedaidd, therapi cerrig, tylino pen Indiaidd neu dylino chwaraeon.
Gwallt
Os ydych am gael y steil wallt neu’r lliw diweddaraf gryn dipyn yn rhatach, galwch heibio i'n gweld. Dim ond brandiau salon o safon rydym yn eu defnyddio ac rydym yn cynnig amrywiaeth o liwiau parhaol a lled-barhaol. Ar gyfer y dynion, mae dewis o wasanaethau barbro.
Harddwch
Sbwyliwch eich hunan gyda'r triniaethau harddwch a gofal croen gorau. Oeddech chi'n gwybod ein bod yn cynnig gweddnewidiadau heb lawdriniaeth, Microdermabrasion a therapi ocsigen yn ogystal â'r triniaethau poblogaidd fel lliw haul St Tropez, triniaethau i’r blew amrant a’r aeliau, triniaethau dwylo a thraed a chwyro?
Holisteg
Beth am ymlacio ar ôl diwrnod prysur gydag un o'n triniaethau tylino moethus? Rydym yn cynnig tylino corff Swedaidd, therapi cerrig, tylino pen Indiaidd, aromatherapi a thylino chwaraeon. Neu beth am dreulio dim ond 20 munud ar ein gwely arnofio sych i gael cyfwerth â thair awr o gwsg?
Lawrlwytho Llyfryn Broadway
Yma yng Nghanolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway, credwn y dylech chi sbwylio’ch hunan heb sbwylio’ch cyfrif banc felly cynigiwn amrywiaeth o driniaethau harddwch, therapïau cyfannol a sba moethus am brisiau cystadleuol.
Please enquire by phoning
01792 284049
Appointments are only available (day and evening) during term time.
Treatment availability will vary throughout the academic year depending on the different stages of learning for the students.
Gift vouchers are available.
Sut i ddod o hyd i ni
Canolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway
Coleg Gŵyr Abertawe
Campws Tycoch
Abertawe SA2 9EB
Ffôn: 01792 284049
Broadway 2
Campws Hill House
Heol Cocyd
Abertawe SA2 0FD
Ffôn: 01792 284051
Ewch ar daith
Cer ar daith rithwir o amgylch Campws Broadway i ddarganfod yr ystod eang o gyfleusterau arbenigol sydd ar gael i fyfyrwyr, gan gynnwys tanc arnofio sych, byrddau tylino a salonau gwallt.