Skip to main content

Cerddoriaeth, y Cyfryngau a Pherfformio

I ymadawyr ysgol 16-18

Mae gan y Coleg gysylltiadau ardderchog â cholegau arbenigol. Rydym yn ganolfan clyweliadau rhanbarthol ar gyfer LAMDA, Academi Mountview a Theatr Genedlaethol Ieuenctid.

Adran gerddoriaeth y Coleg yw’r un fwyaf yng Nghymru ac rydym yn rhedeg amrywiaeth o ensembles gan gynnwys côr, cerddorfa a band jazz.

Ar Gampws Llwyn y Bryn mae dwy stiwdio recordio llawn cyfarpar, nifer o ystafelloedd ymarfer cerddoriaeth a lle perfformio ar lwyfan.

Mynd i'r cyrsiau Mynd i'r newyddion

Llwybrau gyrfa

  • Perfformiwr (actor, dawnsiwr, canwr)
  • Cerddor proffesiynol
  • Coreograffydd
  • Cyfansoddwr
  • Athro/Athrawes
  • Cynhyrchydd
  • Rheolwr llwyfan
  • Cynllunydd gwisgoedd
  • Peiriannydd sain

Newyddion

Penelope George

Myfyriwr y Flwyddyn y Celfyddydau Creadigol - Penelope George

Mae brwdfrydedd Penelope dros gerddoriaeth a drama wedi bod yn eithriadol, mae ganddi ethig gwaith â ffocws pendant iawn, ac mae wedi ennill y graddau gorau posibl. Mae hi wedi bod yn ysgolhaig corawl gyda Chôr Ffilharmonig Abertawe ac mae hi hefyd yn aelod ymroddedig o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Mae hi’n unawdydd profiadol ac wedi elwa’n aruthrol ar ei chysylltiad â LARS (Loud Applause Rising Stars) sy’n darparu sawl llwyfan perfformio ar gyfer talentau newydd ledled De Cymru.

Enillodd Penelope y gystadleuaeth Unawd yn Eisteddfod Sir yr Urdd a chynrychiolodd y Coleg yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Nid yw’n syndod iddi gael cynnig diamod gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar ysgoloriaeth lawn.

Billie Jo

Cyn-fyfyriwr yn dychwelyd i ysbrydoli pobl ifanc greadigol

Dychwelodd wyneb cyfarwydd i Gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar wrth i’r cyn-fyfyriwr Billie-Jo Matthews gamu i’r adwy i helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc greadigol.

Cwblhaodd Billie-Jo gwrs BTEC Estynedig Lefel 3 yn y Cyfryngau Creadigol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe cyn symud ymlaen i Brifysgol Abertawe i ddilyn BA (Anrh) yn y Cyfryngau a Chyfathrebu, ac yna MSc mewn Marchnata Strategol.

Mae hi hefyd wedi gweithio yn y sectorau marchnata creadigol a chyfryngau cymdeithasol, gyda chwmnïau technoleg mawr ac fel gweithiwr llawrydd.

Drwy gydol y cyfnod hwnnw, roedd Billie-Jo wedi cadw mewn cysylltiad â’i darlithwyr a phan soniodd Arweinydd Cwricwlwm y Cyfryngau Creadigol, Jarrod Waldie, am rai cyfleoedd llawrydd yn y Coleg, roedd Billie-Jo yn falch iawn o gymryd rhan.