Partneriaeth Addysg Gymunedol Cenia

Yn 2002, sefydlodd y Coleg elusen - Partneriaeth Addysg Gymunedol Cenia - er mwyn darparu cyllid ar gyfer ysgol gynradd ym Madungu, Gorllewin Cenia.
Gyda’r arian a godwyd, mae’r ysgol wedi gallu talu cyflogau dau aelod o staff yn ogystal â chinio ar gyfer ei disgyblion.
Y Gornel Gariad – Trêt arbennig ar gyfer Dydd Sant Ffolant
Dydd Sant Ffolant
Diwrnod i ddathlu cariad, rhamant, cyfeillgarwch ac edmygedd – ac mae’n cyflym agosáu. Mae pobl ym mhob man o dy gwmpas di yn rhoi anrhegion i’w hanwyliaid, yn wên o glust i glust. Beth am ymuno â nhw a gwneud i rywun wrido!
Y Gornel Gariad
Ddim yn siŵr beth i’w brynu i dy gariad? Edrycha ddim pellach! Yma yn Y Gornel Gariad, galli di ddylunio calon am gost mor isel â £2 a mynd â hi gyda ti ar yr un diwrnod. Does dim byd gwell na rhodd arbennig wedi’i wneud â llaw. Am £2 ychwanegol, galli di drefnu dosbarthu’r galon i dy berson arbennig yn y dosbarth, y cyfuniad perffaith o gariad ac embaras. Eisiau mynd gam ymhellach? Am y pris rhad o £6, galli di ddylunio calon a threfnu ei dosbarthu i dy berson arbennig yn y dosbarth gyda rhywun yn chwarae’r gitâr i’w serenadu! I bartner neu ffrind, dyma gyfle perffaith i gael hwyl wrth ddangos dy gariad a dy werthfawrogiad at rywun a byddwn ni’n fwy na hapus i helpu! Dychmyga eistedd yn y dosbarth, ac mae rhywun yn cerdded i mewn dan ganu, ac yn rhoi calon bersonol i ti; byddai’n achlysur i’w gofio yn sicr!
Pam dewis Y Gornel Gariad?
Yn ogystal â dangos dy gariad at rywun, byddi di hefyd yn cefnogi elusen wych! Mae’r holl arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at Brosiect Cenia, sydd wedi bod yn rhedeg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ers 2002 er mwyn darparu cyllid i ysgol gynradd ym Madungu, Gorllewin Cenia, a chodi ymwybyddiaeth ar yr un pryd. Pwy na fyddai eisiau cefnogi elusen mor wych?
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael tan 14 Chwefror 2025. Galli di ddod o hyd i ni yn yr hen dderbynfa ar Gampws Gorseinon. Welwn ni di yno gobeithio!
Rhif Elusen: 20150916 KM:1163597 CRM: 0001220