Parth Rhieni a Gofalwyr
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw rhieni a gofalwyr o ran helpu pobl ifanc i symud o’r ysgol i’r coleg, a’u cefnogi yn ystod eu taith.
Ein nod yw rhoi amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau newydd i bob person ifanc a fydd yn eu paratoi ar gyfer eu cam nesaf, boed hwnnw yn ddilyniant ym myd addysg neu gyflogaeth.
Mae astudio yn y Coleg yn rhoi’r annibyniaeth sydd ei hangen ar eich plentyn ar gyfer y brifysgol a byd gwaith, ac rydym yn darparu cymorth pwrpasol i’w helpu i gyflawni eu nodau a llwyddo. Yn ogystal â’r lefel uchel o gymorth gan gynnwys ein rhaglen Anrhydeddau CGA, mae ein llwybrau hefyd yn cynnwys profiad gwaith a sgiliau cyflogaeth.
Ein partneriaieth gyda chi
Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw’r bartneriaeth rhyngddom ni a chi o ran sicrhau bod eich plentyn yn cyrraedd ei botensial llawn yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan. Dyna pam rydym yn:
- Cyfathrebu’n rheolaidd â chi i roi’r diweddaraf i chi am gynnydd eich plentyn
- Rhoi adroddiadau cynnydd i chi ar berfformiad, dyddiadau cau gwaith cwrs, arholiadau a phresenoldeb
- Eich gwahodd i nosweithiau rhieni rheolaidd ac yn rhoi cyfle i chi gwrdd â’n tiwtoriaid
- Cyflogi tîm ymroddedig o staff sy’n cynnig cymorth dysgu i alluogi myfyrwyr i lwyddo
- Rhagweithiol o ran cynnig cymorth a llwybrau addysgol amrywiol gan alluogi’ch plentyn i symud ymlaen i addysg uwch, cyflogaeth neu brentisiaeth.
Nosweithiau Cynnydd ar ddod:
Campws Tycoch
- Dydd Iau 13 Chwefror, 5.00pm tan 7.30pm.
Campws Gorseinon
- Safon UG – Dydd Llun 27 Ionawr, 5.00pm tan 7.30pm
- Safon Uwch (Blwyddyn 2) – Dydd Iau 13 Chwefror, 5.00pm tan 7.30pm
- Cyrsiau Galwedigaethol – Dydd Iau 13 Chwefror, 5.00pm tan 7.30pm.
Campws Llywn y Bryn
- Dydd Iau 13 Chwefror, 5.00pm tan 7.30pm.
APWYNTIADAU: I drefnu apwyntiad, dylai eich plentyn/gwarcheidwad ddewis amser sy’n addas ar gyfer ei ddarlithwyr, gan gadarnhau amser a lleoliad y cyfarfod gyda’i rhieni/gwarcheidwaid.
Adrodd absenoldeb
Gwybodaeth am adrodd absenoldeb a’r hyn sydd ei angen arnoch er mwyn ei gofnodi.
Adroddiadau dysgwyr
Gall rhieni a gwarcheidwaid gyrchu e-CDU dysgwyr, ar ôl i’r dysgwyr roi eu caniatâd, i weld cyrsiau, presenoldeb, adroddiadau, canlyniadau WEST ac amserlenni.
Gwybodaeth am arholiadau
Beth i’w ddisgwyl yn y cyfnod cyn yr arholiadau, ac amserlenni arholiadau.