Mae cofrestriadau TGAU a TAG Safon Uwch/UG y Byrddau Arholi yn cau ar 21 Chwefror. Mae cofrestriadau TGAU a TAG Safon Uwch/UG yn parhau i gael eu gwneud a’u trefnu’n derfynol. Tua adeg y Pasg, byddwn ni’n postio amserlenni arholiadau personol wedi’u cadarnhau i’r cyfeiriad cartref. Dylid gwirio’r amserlenni hyn yn ofalus i sicrhau’r canlynol:
- Mae’r holl fanylion personol yn gywir. Os oes rhywbeth yn anghywir, cysylltwch â’r Tîm Arholiadau
- Mae’r holl gofrestriadau disgwyliedig wedi’u rhestru, a dylech chi a’ch mab/merch wneud nodyn o’r dyddiadau ac amser dechrau pob arholiad. Mae arholiadau’r bore yn dechrau am 9.30am, mae arholiadau’r prynhawn yn dechrau am 1.30pm. Os ydych yn credu bod rhywbeth yn eisiau neu yn anghywir, cysylltwch â’r Tîm Cymorth Dysgu.
- Mae’r holl drefniadau mynediad disgwyliedig wedi’u rhestru. Os ydych yn credu bod rhywbeth yn eisiau neu yn anghywir, cysylltwch â’r Tîm Cymorth Dysgu.
Os oes gwrthdaro yn yr amserlen – hynny yw, dau neu fwy o arholiadau wedi’u trefnu ar gyfer yr un diwrnod a’r un amser, fel arfer byddwch yn sefyll y rhain ar yr un diwrnod gyda goruchwyliaeth rhwng pob arholiad. Bydd y tîm Arholiadau yn cadarnhau’r trefniadau hyn yn ysgrifenedig yn nes at yr amser.
Yn aml, nid oes dyddiad wedi’i gyhoeddi ar gyfer arholiadau ymarferol, arholiadau llafar ac asesiadau diarholiad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd mae’r rhain yn cael eu cynnal.
Gall dysgwyr weld eu hamserlen arholiadau ar eu e-CDU hefyd. Bydd yr amserlen gyflawn ar gael ar yr e-CDU o 19 Chwefror.
Mae’r Byrddau Arholi yn cynnig cyngor ac awgrymiadau ar eu gwefannau. Efallai y byddwch chi am edrych ar yr adnoddau sydd ar gael i helpu i baratoi ar gyfer arholiad y cymhwyster. Dyma rai ohonynt:
Mae Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, e-sgol, Cymwysterau Cymru a CBAC wedi sicrhau bod yr adnoddau hyn ar gael trwy hyb cynnwys Dal Ati i Ddysgu. Cymerwch gip ar yr adnoddau hyn: https://hwb.gov.wales/adnoddau/lefel-nesa/
Mae Amserlenni Arholiadau ar gyfer pob corff dyfarnu i’w gweld yma:
Diwrnodau wrth gefn yr Arholiadau yw 6 Mehefin, 13 Mehefin a 26 Mehefin 2024. Mae Cyrff Dyfarnu yn cynghori y dylai dysgwyr a rhieni ystyried dydd Mercher 26 Mehefin 2024 wrth wneud cynlluniau ar gyfer yr haf. Dylai ymgeiswyr gael eu hannog i fod ar gael tan ddydd Mercher 26 Mehefin 2024.