Skip to main content

Mathemateg, Gwyddoniaeth a’r Gwyddorau Cymdeithasol

I ymadawyr ysgol 16-18

Mae’r cyrsiau hyn yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfa cyffrous ac amrywiol yn ogystal â darparu llwyfan ardderchog ar gyfer astudiaethau academaidd pellach.

Gall gwyddoniaeth fod yn ddefnyddiol mewn llawer o sectorau gwahanol megis peirianneg, gweithgynhyrchu ac ymchwil, yn ogystal â meddygaeth a gwyddor yr amgylchedd.

Os oes gennych ddiddordeb yn y byd o’ch cwmpas, boed hynny yr amgylchedd naturiol neu ryngweithiadau dynol, bydd y cyrsiau hyn yn berffaith i chi!

Mynd i'r cyrsiau Mynd i'r newyddion

Llwybrau gyrfa

  • Meddyg/parafeddyg
  • Deintydd
  • Milfeddyg
  • Gweithiwr cymdeithasol
  • Ymchwilydd
  • Peiriannydd
  • Seicolegydd
  • Ffisegydd
  • Gwyddonydd fforensig
  • Peiriannydd genetig
  • Technegydd labordy

Edrychwch ar ein cyrsiau Mathemateg, Gwyddoniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol

Newyddion

Micah Mainwaring

Myfyriwr Safon Uwch Daeareg yn graig o wybodaeth

Diddordeb brwd mewn bioleg ac anifeiliaid yw’r hyn sydd wedi rhoi Micah Mainwaring, myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, ar y llwybr gyrfa i fod yn balaeontolegydd.

Mae Micah ar hyn o bryd yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn bioleg, daeareg, mathemateg a drama ar Gampws Gorseinon.

Cystadleuaeth Dadansoddwr Cemeg Prifysgol Abertawe

Ym mis Ionawr 2024, aeth Coleg Gŵyr Abertawe â 30 o fyfyrwyr Safon Uwch i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Dadansoddwr Cemeg Prifysgol Abertawe.

Dan ofal yr Athro Simon Bott ar Gampws Singleton, mae’r gystadleuaeth yn cynnwys dros 20 o dimau ysgol a choleg o bob cwr o Dde Cymru yn cwblhau tasgau arbrofol a dadansoddi’r canlyniadau.

Eleni, roeddem yn hynod lwyddiannus, gyda’n tîm Cemeg CGA yn ennill y wobr gyntaf a’r ail wobr – dyma’r tro cyntaf i ni gyflawni’r fath gamp wych!