Mae 18 myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi derbyn cynigion gan brifysgolion i astudio cyrsiau meddygaeth neu wyddoniaeth filfeddygol ym mis Medi.
Mae gwasanaeth cymorth tiwtorial Meddygon, Deintyddion a Milfeddygon (MDV) - sy’n un o ganghennau rhaglen Anrhydeddau CGA - yn rhoi cyfle i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth, gwyddoniaeth filfeddygol, deintyddiaeth neu fferylla ennill rhywfaint o sgiliau a phrofiad er mwyn gwneud cais i fynd i’r brifysgol.
Fe wnaeth pob un o’r 18 myfyriwr elwa o diwtorialau MDV y Coleg ac fe wnaethant gymryd rhan yn Academi Seren, sef rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr fel y gallant wneud cais i astudio mewn sefydliadau blaenllaw yng Nghymru, y DU a gweddill y byd.
“Dyma gyflawniad gwych i’r dysgwyr ac maen nhw i gyd wedi gweithio’n ddiflino yn ystod eu hastudiaethau Safon uwch.” Meddai Jess O’Driscoll, Rheolwr Maes Dysgu Cynorthwyol. “Mae hyn hefyd yn adlewyrchiad o ymroddiad ein staff addysgu, sydd wedi cyfrannu’n helaeth at eu llwyddiant - o helpu gyda llunio datganiadau personol a sicrhau geirdaon i baratoi ar gyfer cyfweliadau a chynnig cymorth yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.”
Y myfyrwyr llwyddiannus:
Brooke Davies (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gymunedol Cwmtawe) – wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Surrey
Ava Phillips (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gymunedol Cwmtawe) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd
Jess Fowkes (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd
Ben Hawkins (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste
Milly Jenkins (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerwysg
Sophie Peter (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd
Edward Spanner (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd
Adina Zafar (un o gyn-ddisgyblion Olchfa) – wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd, Bryste, Caerwysg a Birmingham
Steffi Saji (un o gyn-ddisgyblion Coedcae) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Nottingham
Asmaa Riaz (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gatholig Sant John Lloyd) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Lancaster
Kacper Rejniak (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gatholig Sant John Lloyd) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Nottingham
Rhiannon Reed (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Gŵyr) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor
Millie John (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Penyrheol) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerwysg
Ebony Johnston (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Glan Y Mor) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerwysg
Sam Jones (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Maesydderwen) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Sunderland
Sebastien Maskell (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Maes y Gwendraeth) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Plymouth
Beth Plowman (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Pontarddulais) - wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd a Prhifysgol Bangor
Ella Watkins (un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Eglwys Sant Ioan) wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd