Ysgol Haf Fyd-eang CGA: Dydd Sul 6 Gorffennaf – Dydd Sul 20 Gorffennaf 2025
Saesneg a Diwylliant Prydain
Abertawe yw’r lle perffaith am Ysgol Haf, a hithau wedi’i hamgylchynu gan rai o’r traethau gorau yn y DU. Yn wir, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cymryd ei enw o fro adnabyddus Penrhyn Gŵyr ac wrth gwrs, byddwn ni’n mynd â’n holl fyfyrwyr i’r traethau i fwynhau’r golygfeydd hardd yn ystod eu cyfnod yma!
Mae ein Hysgol Haf Saesneg a Diwylliant Prydain yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wella eu sgiliau Saesneg a dysgu am ddiwylliant Prydain, ochr yn ochr â myfyrwyr o bob cwr o’r byd. Rydym hefyd yn cynnig rhaglen gymdeithasol gyffrous gan gynnwys ymweld â’r atyniadau a dinasoedd enwog yng Nghymru a’r DU.
Bydd y rhaglen yn cynnwys gwersi Saesneg a diwylliant yn y bore, wedi’u haddysgu ym Mhlas Sgeti, ein plasty rhestredig Gradd II godidog o bensaernïaeth Brydeinig draddodiadol. Bydd ymweliadau yn y prynhawn yn ardal Abertawe, gan gynnwys traethau, cestyll, amgueddfeydd ac orielau lleol. Mae gwibdeithiau ymhellach i ffwrdd ar y penwythnosau i Gaerdydd a Chaerfaddon, ac ar y penwythnos olaf byddwn ni’n aros dros nos yn Llundain, i weld y prif atyniadau fel Palas Buckingham, Downing Street, Big Ben, London Eye a’r Amgueddfa Brydeinig.
Bydd myfyrwyr yn aros gyda theulu Homestay lleol yn Abertawe, gan roi cyfle iddyn nhw wella eu Saesneg a chael mewnwelediad i fywyd beunyddiol yn y DU. Mae pob teulu wedi cael gwiriad DBS ac yn westywyr profiadol.
Trafnidiaeth i’ch casglu o Faes Awyr Heathrow ddydd Sul 6 Gorffennaf am 1pm.
Dyddiadau: Dydd Sul 6 Gorffennaf – Dydd Sul 20 Gorffennaf 2025
Pris: £2,850 gan gynnwys dysgu, rhaglen gymdeithasol a gweld atyniadau, llety Homestay, 3 phryd o fwyd y dydd, trafnidiaeth i ac o’r maes awyr a thrafnidiaeth leol.
Telerau ac amodau: Rhaid i’r myfyriwr fod yn 15 oed o leiaf. Rhaid i ni gael ceisiadau erbyn dydd Gwener 4 Ebrill 2025. Bydd angen o leiaf 15 myfyriwr er mwyn rhedeg y rhaglen.
