Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)
Rydym yn cynnig dosbarthiadau Saesneg am ddim (yn amodol ar gymhwystra) i bobl nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf. Mae nifer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i gyrsiau coleg/prifysgol neu i gyflogaeth.
Cynigir y cwrs ar y lefelau canlynol:
Cyn-fynediad (dechreuwr) - rhan-amser
Mynediad 1 (dechreuwyr - A1*) - rhan-amser neu amser llawn
Mynediad 2 (elfennol - A2) - rhan-amser neu amser llawn
Mynediad 3 (cyn-ganolradd - B1) - rhan-amser neu amser llawn
Lefel 1 (canolradd - B2) - rhan-amser neu amser llawn
Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau ESOL+ ar Lefel 1 i helpu dysgwyr i symud ymlaen i gwrs lefel uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Gall dysgwyr ddewis un o bum pwnc ESOL+, y byddan nhw’n ei astudio yn ychwanegol at eu cwrs ESOL. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig ESOL+ mewn Celf, Busnes, Peirianneg, Trin Gwallt ac Iechyd a Gofal.
Lefel 2 (canolradd uwch - C11) - rhan-amser
* A1, A2 ac ati, cyfeiriwch at y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin.
Gofynion mynediad: Cyfweliad ac asesiad cychwynnol.
Sgiliau ar gyfer Bywyd ESOL Mynediad 1 (Lefel Mynediad)
Lefel Mynediad
Sgiliau ar gyfer Bywyd ESOL Mynediad 2 (Lefel Mynediad)
Lefel Mynediad
Sgiliau ar gyfer Bywyd ESOL Mynediad 3 (Lefel Mynediad)
Lefel Mynediad