Skip to main content

Y Dyniaethau ac Ieithoedd

I ymadawyr ysgol 16-18

O’r Ymerodraeth Rufeinig i faterion cyfoes a chrefydd, mae’r cyrsiau hyn yn ddelfrydol i’r myfyrwyr sydd â diddordeb mewn materion yn y gorffennol a’r presennol.

Astudiwch Saesneg a bydd y byd i gyd o’ch blaen! Mae’n ddewis ardderchog i fyfyrwyr sydd am astudio’r celfyddydau, y dyniaethau, ieithoedd neu fusnes yn y brifysgol.

Gall cymhwyster mewn ieithoedd arwain at amrywiaeth eang o yrfaoedd megis cyfieithu, rheoli gwesty, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus neu newyddiaduraeth.

Mynd i'r cyrsiau Mynd i'r newyddion

Llwybrau gyrfa

  • Newyddiadurwr
  • Cyfieithydd
  • Athro/Athrawes
  • Hanesydd
  • Gwleidydd
  • Cyfreithiwr
  • Cadwraethwr
  • Troseddegwr

Cyrsiau Y Dyniaethau

Newyddion

Grŵp o fyfyrwyr

Myfyrwyr Saesneg yn mwynhau darlleniad barddoniaeth arbennig

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth ar 5 Hydref, roedd myfyrwyr Safon Uwch Saesneg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn falch dros ben o groesawu’r bardd Guinevere Clark i Gampws Gorseinon.

 

Digwyddiad hystings bywiog yn tanio dadl

Aeth tua 50 o fyfyrwyr Safon Uwch Coleg Gŵyr Abertawe i ddigwyddiad hystings arbennig ar Gampws Gorseinon yn ddiweddar fel y gallant ofyn cwestiynau i ymgeiswyr eu hetholaeth leol.

Group of students

Mae grŵp o’n myfyrwyr Safon Uwch Daearyddiaeth a Daeareg wedi bod ar daith unwaith-mewn-oes i Wlad yr Iâ.

Roedd y daith yn gyfle iddynt weld nodweddion tectonig allweddol mewn bywyd go iawn wrth ddatblygu eu gwybodaeth o Grib Canol yr Iwerydd (y rhaniad rhwng platiau tectonig Ewrasia a Gogledd America). Gwelon nhw dystiolaeth o brosesau tectonig megis geiser byw, a chael cyfle i ymdrochi mewn tarddellau poeth geothermol naturiol.

Mark Drakeford

Myfyrwyr Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn cwrdd â’r Prif Weinidog

Fe wnaeth myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe groesawu ymwelydd arbennig iawn yn ddiweddar – Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.