Safon Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn:
01792 890700 (Gorseinon)
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae meysydd astudio blwddyn un yn cynnwys:
- Hawliau a democratiaeth yn y DU
- Etholiadau ac ymddygiad pleidleisio
- Pleidiau gwleidyddol, carfanau pwyso a mudiadau
- Sut mae Cymru a’r DU yn cael eu llywodraethu.
Mae meysydd astudio blwyddyn dau yn cynnwys:
- Gwleidyddiaeth UDA - etholiadau, y Cyfansoddiad, pleidiau gwleidyddol a changhennau’r llywodraeth
- Ideolegau megis ceidwadaeth, sosialaeth, comiwnyddiaeth, rhyddfrydiaeth a chenedlaetholdeb.
Yr amcanion allweddol yw:
- Datblygu dealltwriaeth fanwl o wleidyddiaeth a llywodraeth yng Nghymru, y DU a’r byd
- Meithrin gwerthfawrogiad o egwyddorion democrataidd
- Gwella llythrennedd gwleidyddol a grymuso myfyrwyr i gymryd rhan weithredol mewn bywyd dinesig.
Erbyn diwedd y cwrs bydd myfyrwyr yn gallu:
- Ennill gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o lywodraeth a gwleidyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol
- Dadansoddi systemau gwleidyddol a llywodraethol a gwahanol gysyniadau a damcaniaethau gwleidyddol
- Ffurfio cysylltiadau, dadleuon a gwerthusiadau wedi’u rhesymu’n dda.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU
- Mae gradd B mewn Saesneg Iaith a naill ai gradd B mewn Saesneg Llenyddiaeth neu radd B mewn pwnc sy’n ymwneud â’r Dyniaethau yn hanfodol
- Brwdfrydedd dros ddysgu am wleidyddiaeth ac awydd i ddyfnhau eu dealltwriaeth o sut mae llywodraeth yn gweithio
- Ymwybyddiaeth o newyddion a materion cyfoes
- Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r pwnc, mae’n hygyrch i fyfyrwyr o gefndiroedd academaidd amrywiol.
- Mae hwn yn gwrs ystafell ddosbarth gyda 4.5 awr o amser cyswllt bob wythnos
- Bydd pedair uned yn cael eu hastudio dros y ddwy flynedd, pob un yn cael ei hasesu gyda dau arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd pob blwyddyn
- Addysgir gwersi trwy gyfuniad o ddarlithoedd, trafodaethau bywiog a gweithgareddau ysgogol
- Bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o’r pwnc, yn ogystal â’r gallu i ddehongli a chymhwyso a dadansoddi a gwerthuso, sef sgiliau a fydd yn cael eu hasesu a’u graddio yn eich arholiadau.
- Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ddilyn cyrsiau gradd fel Gwleidyddiaeth, y Gyfraith, Cysylltiadau Rhyngwladol, Newyddiaduraeth, Polisi Cyhoeddus, Polisi Cymdeithasol, Hanes ac Economeg
- Mae myfyrwyr sydd wedi dilyn y cwrs wedi mynd ymlaen i astudio mewn sefydliadau uchel eu parch fel Aberystwyth, Bryste, Caerdydd, Rhydychen, Caergrawnt, Coleg y Brenin Llundain, LSE ac Abertawe
- Mae gwybodaeth o Lywodraeth a Gwleidyddiaeth yn ddefnyddiol iawn mewn amrywiaeth eang o feysydd. Gall fod yn fan cychwyn gwych ar gyfer gyrfa mewn gwleidyddiaeth, pleidiau gwleidyddol a charfanau pwyso, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, y cyfryngau, newyddiaduraeth, gwaith cymdeithasol, y gyfraith, gwasanaethau cyhoeddus, busnes ac addysgu.