Safon Uwch Economeg
Trosolwg
Ar y cwrs hwn byddwch yn canolbwyntio ar ficroeconomeg a macroeconomeg.
- Mae microeconomeg yn rhoi sylw i faterion megis:
- Pam mae prisiau tai mor uchel?
- Oes modd rheoli llygredd yn effeithiol?
- A ddylai llywodraethau ymyrryd â marchnadoedd?
- Beth sy’n digwydd pan fydd marchnadoedd yn methu?
Mae macroeconomics yn rhoi sylw i faterion megis:
- Pam mae targed cyfradd chwyddiant gan y llywodraeth a sut mae’n effeithio arnom?
- Beth fydd yn digwydd i’r economi os bydd pobl yn penderfynu gwario rhagor?
- Sut mae economi’r DU yn cael ei heffeithio gan economïau sy’n datblygu?
- Beth yw costau a manteision cymdeithasol ac economaidd diweithdra?
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU
- Gan gynnwys o leiaf radd B mewn Saesneg laith a Mathemateg
Asesu:
- Arholiadau dewis lluosog
- Astudiaethau achos
- Traethodau
- Cwestiynau hen bapurau arholiad
Meini Prawf Graddio:
Arholiad: 100%.
Asesir y cwrs drwy ddau arholiad yn Safon UG, y ddau yn bapurau ysgrifenedig gyda chwestiynau atebion byr yn Uned 1, ynghyd â chwestiynau dewis lluosog. Mae Uned 2 yn cynnwys dwy astudiaeth achos. Yn Safon Uwch, mae dau bapur arall, eto gyda chwestiynau atebion byr ac astudiaeth achos yn Uned 2 a thraethodau yn Uned 4.
Cyrsiau AU a addysgir yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gan gynnwys HND Rheoli Busnes / BA Rheoli Busnes (cwrs breiniol Prifysgol De Cymru).
Mae nifer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion Russell Group, gan gynnwys Rhydgrawnt. Gallai gyrfaoedd yn y dyfodol gynnwys cyllid, bancio, cyfrifeg, addysg, yswiriant, meddygaeth a pheirianneg. Mae llawer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i weithio yn y Pedwar Cwmni Gwasanaethau Cyfrifeg a Phroffesiynol Rhyngwladol Mawr (Deloitte, PWC, KPMG ac Ernst & Young).
- Gwerslyfr y cwrs yw “Economics” gan Alain Anderton.
- Bydd y cwrs yn cynnwys teithiau i gwmnïau eraill, cwmnïau masnachu lleol, Amazon
- Byddwn yn cymryd rhan mewn sawl cystadleuaeth Economeg nodedig.