Skip to main content

Llwyn y Bryn

Llwyn y Bryn yw ein campws y Celfyddydau, lle rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau mewn Celf a Dylunio, Ffasiwn a Thecstilau, Ffotograffiaeth a Pherfformiad Cerddoriaeth. Lleolir y campws yn ardal Uplands Abertawe ac fe’i hadeiladwyd yn y 1800au. Mae ganddo naws dymunol wedi’i ategu gan waith celf myfyrwyr sy’n cael ei arddangos drwyddo draw. Mae gan y campws gyfleusterau ardderchog, modern, fel Stiwdios Ffotograffiaeth, Ystafell Dywyll, Ystafelloedd Apple Mac a Chyfrifiaduron Personol, Stiwdios Recordio Cerddoriaeth, Llwyfan Perfformio, Ystafelloedd Ymarfer Cerddoriaeth, Gofod Arddangos, ac wrth gwrs, Llyfrgell fodern.

Mae’r campws o faint braf gydag awyrgylch croesawgar, sy’n rhoi modd i’r myfyrwyr wneud ffrindiau yn gyflym a lle mae amrywiaeth yn cael ei derbyn a’i meithrin. Mae dysgwyr yn cyflawni canlyniadau sy’n arwain y sector, gyda chyfraddau dilyniant rhagorol i brifysgolion blaenllaw’r Celfyddydau.

Mae Llwyn y Bryn hefyd yn gartref i’n darpariaeth ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill), lle mae pobl o bedwar ban byd yn dod i astudio Saesneg ar draws amrywiaeth o lefelau. Mae llawer o’n myfyrwyr ESOL yn symud ymlaen i gyrsiau coleg a phrifysgol neu i gyflogaeth. Mae’r campws hefyd yn cynnig cyrsiau mewn Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol, a addysgir gan ein tîm Addysg Oedolion.

Digwyddiadau sydd ar ddod ar Gampws Llwyn y Bryn

DigwyddiadauDyddiadDolen cofrestru/strong>
Noson agored amser llawn20 Tachwedd 2024Bwcio lle
Noson agored amser llawn23 Ionawr 2025Cofrestru ar agor yn fuan
Noson agored amser llawn27 Mawrth 2025Cofrestru ar agor yn fuan

Rhestr o’r holl ddigwyddiadau

Manylion Cyswllt

Llwyn y Bryn
77 Heol Walter
Abertawe
SA1 4QA
Ffôn: 01792 284021

Oriau Agor

Yn ystod y tymor
Dydd Llun i Ddydd Iau - 8.30am tan 9pm
Dydd Gwener - 8.30am tan 4.30pm

Yn ystod y gwyliau
Dydd Llun i Ddydd Iau - 8.30am tan 5pm
Dydd Gwener - 8.30am tan 4.30pm

Arddangosfeyd Celf Rithwir

Lefel 3

Lefel A

Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)

Rydym yn cynnig cyrsiau achrededig, Mynediad 1 i Lefel 1. Mae’r cyrsiau hyn yn rhedeg am 35 wythnos, 14 awr yr wythnos. Maen nhw’n gwella sgiliau iaith ac yn ehangu’ch geirfa, gan roi modd i chi symud ymlaen i gyrsiau eraill.

Cer i fyd creadigol Llwyn y Bryn. Cerdda’r coridorau ac archwilia’r holl gyfleusterau modern, sy’n cynnwys stiwdios celf arbenigol, ystafelloedd digidol tywyll, stiwdio recordio a Chanolfan Ffasiwn a Thecstilau.