Skip to main content

Cymorth Anabledd a Hygyrchedd

Rydyn ni’n cynnig y gwasanaethau canlynol i hwyluso’r broses o ddefnyddio Adnoddau Llyfrgell a’u gwneud yn fwy hygyrch i bawb:

 

Darllenwyr sgrin

  • Darllenwyr sefydlog a symudol
  • Chwyddo ac uwcholeuo testun
  • Newid lliw a disgleirdeb tudalennau

Ar gael yn y llyfrgelloedd canlynol: Tycoch, Gorseinon a Llwyn y Bryn

 

Troshaen sgriniau a phapur lliw

  • Gallwch fenthyg troshaenau sgrin lliw i'w defnyddio ar gyfrifiaduron personol a gliniaduron y llyfrgell
  • Gallwch hefyd fenthyg papur lliw ar gyfer ysgrifennu ac argraffu.

Ar gael yn y llyfrgelloedd canlynol: Tycoch, Gorseinon a Chanolfan y Brifysgol

 

Desgiau y gellir addasu eu huchder

  • Mae Desgiau y gellir addasu eu huchder yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn neu unigolion sy’n dymuno sefyll ar eu traed wrth ddefnyddio cyfrifiadur.
  • Gwasgwch fotwm i addasu uchder y ddesg.

Ar gael yn y llyfrgelloedd canlynol: Tycoch, Gorseinon a Chanolfan y Brifysgol.

 

Mynediad trwy ddefnyddio lifftiau a rampiau

  • Gallwch gyrraedd y llyfrgell trwy ddefnyddio lifft: Tycoch, Gorseinon a Chanolfan y Brifysgol.

Mae ramp ar gael hefyd ar lawr gwaelod Llyfrgell Gorseinon.

 

eLyfrau ac eGyfnodolion

  • Ewch i’r Llyfrgell Ar-lein i gael mynediad at eLyfrau ac eGyfnodolion.
  • Mae gan lyfrau a chyfnodolion ar-lein feddalwedd sy'n eich galluogi i newid maint y ffont a lliw'r dudalen.

Ar gael ym mhob llyfrgell.

 

Cymorth un-i-un

  • Gallwch gael cymorth personol, ar-lein a thros y ffôn gan staff y llyfrgell.
  • Mae cymorth ychwanegol i ddysgwyr awtistig diolch i’n Mentoriaid sydd wedi’u hyfforddi mewn Awtistiaeth.
 

Llyfrau addas ar gyfer pob lefel darllen

  • Mae gennym lyfrau addas ar gyfer darllenwyr o bob lefel a gellir eu cyrchu yn ardal @YParc yn Llyfrgell Tycoch.
  • Mae llyfrau i helpu gyda sgiliau iaith Saesneg a mathemateg hefyd ar gael.
 

Ardaloedd tawel

  • Gall myfyrwyr niwroamrywiol gael mynediad i'r Ystafell Egwyl yn Llyfrgell Tycoch pan fo angen saib arnynt.
  • Mae gan y llyfrgelloedd hefyd ardaloedd tawel lle gallwch weithio heb unrhyw sŵn diangen.

Ar gael ym mhob llyfrgell.

 

Anfon llyfrau i gampysau eraill

  • Mewngofnodwch i adnodd Chwilio y Llyfrgell i wneud cais i symud llyfrau i’r campws lle rydych chi wedi’ch lleoli.
 

Cymorth ESOL