Tirwedd a Garddwriaeth
Mae tirlunio yn sector sy’n tyfu’n gyflym yn y DU. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ymwybyddiaeth y cyhoedd o blanhigion, garddio, tirlunio a’r amgylchedd wedi cynyddu’n fawr. Mae hyn yn helpu i wneud garddwriaeth a thirlunio yn un o’r sectorau cyflogaeth mwyaf yn y DU.
Llwybrau gyrfa
- Garddwr/Tirluniwr
- Gweithiwr canolfan garddio
- Technegydd meithrinfa
- Garddwr treftadaeth
- Ceidwad parc
- Gweithiwr cynnal a chadw tiroedd/meysydd chwaraeon
Sicrhau eich dyfodol
Enillwch gyflogaeth yn y diwydiant neu ddechrau’ch busnes eich hun.
Cyrsiau tirwedd a garddwriaeth
Adeiladu Tirlun a Garddio Lefel 1 - Diploma
Lefel 1 Diploma
Sgiliau Garwddwriaeth Ymarferol Lefel 2 - Diploma
Lefel 2 Diploma
Newyddion
Lansio Hwb Gwyrdd y Coleg yn swyddogol
Fe wnaeth staff a myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe groesawu gwestai arbennig iawn i lansiad swyddogol eu Hwb Gwyrdd.
Aeth Iolo Williams, eiriolwr o fri dros gadwraeth amgylcheddol ac wyneb cyfarwydd ar y teledu, ar daith o gwmpas y cyfleusterau a threulio amser yn siarad â’r myfyrwyr.
Coleg Gŵyr Abertawe yn cyrraedd y rownd derfynol mewn tri chategori yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru
Mae’r Tîm Tirlunio ac Eco wedi sicrhau lle yng nghategori Ymgysylltiad Dysgwyr mewn Ysgol/Coleg.
Yn ddiweddar, mae’r tîm hwn hefyd wedi dathlu gwobr Arian yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson.