Skip to main content
Grŵp yn sefyll y tu allan i adeilad brics â murlun

Lansio Hwb Gwyrdd y Coleg yn swyddogol

Fe wnaeth staff a myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe groesawu gwestai arbennig iawn i lansiad swyddogol eu Hwb Gwyrdd.

Aeth Iolo Williams, eiriolwr o fri dros gadwraeth amgylcheddol a wyneb cyfarwydd ar raglenni teledu fel Springwatch, The Last Wilderness of Wales, Iolo's Borderlands a Natur Gudd Cymru ar daith o gwmpas y cyfleusterau a threulio amser yn sgwrsio â myfyrwyr.

Mae’r Coleg wedi cynnig cyrsiau tirlunio ac eco-adeiladu ers 2019 ond nawr – gyda lansiad yr Hwb Gwyrdd – bydd gan fyfyrwyr ofod penodedig lle gallant ddysgu ac ymlacio.

Roedd y daith o gwmpas y cyfleusterau yn cynnwys yr ardd lysiau, sydd â lle cynhyrchu bwyd, y pwll, y twnnel tyfu a’r berllan. Y tu mewn, roedd yr ystafelloedd gwaith a’r ystafelloedd celf hefyd wedi creu argraff ar yr ymwelwyr.

Cafodd coeden eirin, a roddwyd yn garedig gan Ganolfan Arddio Dobbies, ei phlannu i anrhydeddu’r achlysur arbennig.

“Roedden ni’n falch dros ben o groesawu Iolo a’n holl bartneriaid a gwesteion arbennig i’r Hwb Gwyrdd,” meddai’r Pennaeth Kelly Fountain. “O’r dechreuadau gostyngedig hynny yn 2019, heb gyllid wedi’i ddyrannu, ac yn gweithio o adeiladau nad oedden nhw’n addas iawn i’r ddarpariaeth, mae’r tîm tirlunio – dan arweiniad ein 
Rheolwr Ysgolion gweledigaethol Lynne Burrows – wedi trawsnewid eu rhan nhw o’r campws yn yr hyn a welwch chi heddiw.

“Bob dydd, ac ym mhob tywydd, maen nhw’n ysbrydoli ac yn ennyn diddordeb y dysgwyr, yr oedd llawer ohonyn nhw heb gael profiad cynnar, cadarnhaol o addysg. Maen nhw wedi rhoi teimlad gwirioneddol o gymuned i’w myfyrwyr gan roi modd iddyn nhw ddatblygu sgiliau ymarferol a fydd yn eu paratoi’n dda ar gyfer cyflogaeth, ac ar gyfer bywyd.

“Nawr, diolch i fuddsoddiad pellach gan y Coleg, mae’r dysgwyr wedi mwynhau personoli cyfleusterau’r Hwb Gwyrdd fel eu rhai nhw eu hunain, gyda gofod ystafell ddosbarth, gweithdai a man celfyddydau/crefftau penodedig."

Yn ystod ei ymweliad, soniodd Iolo am ba mor ysbrydoledig oedd y daith o gwmpas yr Hwb Gwyrdd gan obeithio y gallai cyfleusterau o’r fath fod ar gael i fwy o ddysgwyr.

“Roedd Lynne ymhell ar y blaen i’r gromlin yn ôl yn 2019,” ychwanegodd Cyfarwyddwr Datblygu Sgiliau a Phartneriaeth Ysgolion, Jenny Hill. “Roedd ganddi weledigaeth go iawn o ran sut y gallai cysylltu â natur gael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc a’u lles. Aeth ati wedyn i recriwtio tîm gwych o ddarlithwyr a staff cymorth sydd, yn eu tro, wedi ysbrydoli dysgwyr anhygoel. Rydyn ni wedi gweld cynnydd calonogol iawn ym mhresenoldeb myfyrwyr a dilyniant i gyrsiau lefel uwch yn y Coleg.”

Mae’r tîm tirlunio ar hyn o bryd yn gobeithio ennill nid un, ond dwy, wobr nodedig – Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson a Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.

Mae’r Hwb Gwyrdd eisoes yn rhan annatod o’r Coleg. Mae’n rhedeg clwb garddio awyr agored ar ddiwrnodau lles staff, yn darparu perlysiau i fwyty hyfforddi’r Vanilla Pod, ac yn rhoi ffrwythau a llysiau i fanciau bwyd lleol.
Hoffai’r Coleg ddiolch i’r sefydliadau a’r unigolion a fu mor allweddol o ran datblygu’r Hwb Gwyrdd, ac a gefnogodd y lansiad gan gynnwys:

4theRegion
Ark Project
Boverton Nurseries
Bwyd Abertawe
Cadwch Gymru’n Daclus
Cae Tân
Canolfan Arddio Dobbies
CWM Environmental
Cyngor Abertawe (Hyfforddwyr Dysgu a Staff Ysgol, Yr Adran Parciau a Phriffyrdd)
Fresh Creative
Gerald Davies Landscaping
Gyrfa Cymru
Prosiect Perllan Abertawe
Timau Ystadau ac Arlwyo Coleg Gŵyr Abertawe

Ar hyn o bryd, mae’r Coleg yn cynnig dau gwrs Diploma – Lefel 1 mewn Adeiladu Tirlun a Garddio a Lefel 2 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol.