Skip to main content

Coleg Gŵyr Abertawe ar Restr Symudedd Cymdeithasdol 2024

 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi ei fod ar Restr Symudedd Cymdeithasol 2024, menter sy’n cydnabod ysgolion a cholegau sy’n cymryd camau sylweddol wrth ddatblygu symudedd cymdeithasol ar hyd a lled y DU.

Y cyntaf o’i fath, mae’r Rhestr Symudedd Cymdeithasol, mewn partneriaeth â bp, yn gyhoeddiad arloesol newydd gan Making The Leap i’w gyhoeddi yn flynyddol, gan dynnu sylw at y cyfranwyr a’r mentrau allweddol sy’n llywio symudedd cymdeithasol yn y DU.

Daw’r anrhydedd hwn wedi i’r Coleg gael ei gydnabod yng Ngwobrau Symudedd Cymdeithasol y DU ym mis Hydref, lle enillon ni Wobr Aur a Chanmoliaeth Uchel yng nghategori Ysgol/Coleg y Flwyddyn. Mae’r wobr yn cydnabod ein hymroddiad i ymgorffori symudedd cymdeithasol ar draws meysydd addysgu ac ymarfer allweddol, gan gynnwys rhaglenni prentisiaeth ac adsefydlu. Mae ein gwaith yn y maes hwn wedi gwella symudedd cymdeithasol trwy rymuso prentisiaid ag anableddau i gyflawni a thrwy roi mwy o hunan-barch a chyfleoedd cyflogaeth i gyn-garcharorion.

Dywedodd Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: “Rydyn ni’n hynod falch o gael ein cynnwys ar y Rhestr Symudedd Cymdeithasol eleni. Mae’n cydnabod ein hymrwymiad i greu cyfleoedd ac ymgorffori symudedd cymdeithasol ar draws pob un o’n meysydd addysgu ac ymarfer, trwy gefnogi prentisiaid ag anableddau ac unigolion sy’n ailadeiladu eu bywydau ar ôl bod yn y carchar.” 

Wrth siarad am y rhestr, dywedodd Tunde Banjoko, Prif Swyddog Gweithredol Making The Leap a Sylfaenydd y Rhestr Symudedd Cymdeithasol: “Dwi’n credu mai symudedd cymdeithasol yw’r dull mwyaf pwerus y gallwn ni ei ddefnyddio i greu cymdeithas decach a mwy cyfiawn.

“Mae’r Rhestr Symudedd Cymdeithasol yn adeiladu ar y sylfaen bod hybu a dathlu mentrau symudedd cymdeithasol yn helpu i wthio’r achos yn ei flaen, ac felly mae ganddi bwrpas ehangach a pharhaol fel adnodd cyfeirio allweddol ar gyfer sefydliadau a phenderfynwyr sy’n ymrwymedig i newid.”

Mae’r Rhestr Symudedd Cymdeithasol lawn i’w gweld yma.