Cymorth
Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n ymrwymedig i'ch helpu chi ar bob agwedd ar fywyd yn y Coleg. P’un ai a ydych am dderbyn cymorth gyda chyrsiau, gyrfaoedd, materion ariannol, anghenion ychwanegol neu faterion personol neu deuluol, mae gennym y cyfleusterau i’ch helpu chi.
Cymorth academaidd
Cyrchwch y cymorth sydd angen arnoch i lwyddo’n academaidd. Gallwch archwilio ein hystod o adnoddau, gan gynnwys Rhaglen Anrhydeddau CGA, cymorth tiwtorial a chyfle i ailsefyll arholiadau TGAU. Eich Dyfodol wedi’i Sicrhau!
Cymorth dysgu ychwanegol
Rhowch hwb i’ch cyflogadwyedd trwy gyrchu cymorth arbenigol Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Datblygwch eich taith entrepreneuraidd gyda Menter CGA, sy’n cynnig arweiniad personol i’ch helpu i lansio neu ehangu eich busnes eich hun.
Tocynnau bws
Mae tocynnau bws yn cynnig ffordd cludiant cyfleus a fforddiadwy i fyfyrwyr. Archwiliwch ein hystod eang o opsiynau, gan gynnwys llwybrau, cynlluniau prisio a sut i gael tocyn.
Cymorth gyrfa
Rhowch hwb i’ch cyflogadwyedd trwy gyrchu cymorth arbenigol Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Datblygwch eich taith entrepreneuraidd gyda Menter CGA, sy’n cynnig arweiniad personol i’ch helpu i lansio neu ehangu eich busnes eich hun.
Cymorth ariannol
Oes angen help arnoch chi gyda chostau astudio? Darganfyddwch pa fath o gymorth sydd ar gael i chi. Gallwn gynnig LCA a FCF ar gyfer ymadawyr ysgol yn ogystal â grantiau a bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr addysgu uwch.
Iechyd a lles
Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth cyfrinachol, gan gynnwys cwnsela, ymgynghorwyd iechyd, swyddogion cymorth i fyfyrwyr a thîm o hyfforddwyr bugeiliol, er mwyn cefnogi eich lles cyffredinol a’ch twf personol.
Llyfrgelloedd
Mae ein llyfrgelloedd yn llawn adnoddau i’ch helpu chi lwyddo yn eich astudiaethau, a bydd gennych fynediad at staff arbenigol, llyfrau, mannau astudio a thechnoleg newydd sbon.
Parth Rhieni a Gofalwyr
Mae cefnogi taith pob myfyriwr yn bwysig i ni. Yma fe welwch wybodaeth ddefnyddiol am arholiadau, cyrchu adroddiadau dysgwyr a gwybodaeth am sut i riportio absenoldebau.
Cymorth Cymraeg
Croeso! Darganfyddwch sut rydym yn cefnogi myfyrwyr cyfrwng Cymraeg a siaradwyr Cymraeg yn y Coleg. Dewch o hyd i wybodaeth am ein gweithgareddau Cymraeg, gwasanaethau cymorth, a sut i ddod yn Llysgennad y Gymraeg.
Cymorth+
Oes angen cymorth ychwanegol arnoch y tu hwnt i'n gwasanaethau cymorth craidd? Cymerwch gipolwg ar ein hystod o adnoddau arbenigol a fydd yn diwallu eich anghenion unigol.