Gorseinon
Mae mwy na 2000 o fyfyrwyr amser llawn yn astudio ar Gampws Gorseinon, lle mae ganddynt ddewis o bron 40 o bynciau Safon Uwch ac amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol. Mae cymorth i fyfyrwyr yn ganolog i’n gweithgareddau ac mae cyfleusterau’r Campws yn cael eu huwchraddio’n gyson i greu amgylchedd sy’n rhoi modd i fyfyrwyr gyrraedd eu potensial.
Ymhlith y cyfleusterau arbenigol a ddarperir mae labordai gwyddoniaeth, ystafelloedd cerbydau modur a chanolfan ar gyfer y celfyddydau perfformio a chreadigol.
Mae estyniad newydd sbon i ffreutur y myfyrwyr – sef Cwtsh Coffi Gorseinon – bellach wedi'i gwblhau. Mae'r prosiect £2 filiwn yn gartref i ardal goffi Costa newydd gyda wi-fi hygyrch, sgriniau teledu a seddau ychwanegol ar gyfer hyd at 110 o fyfyrwyr.
Digwyddiadau sydd ar ddod ar Gampws Gorseinon
Digwyddiadau | Dyddiad | Dolen cofrestru |
Digwyddiad gwybodaeth am ailddatblygu’r campws | 9 Hydref 2024 | Rhagor o wybodaeth |
Noson agored amser llawn | 13 Tachwedd 2024 | Bwcio lle |
Noson agored amser llawn | 14 Ionawr 2025 | Cofrestru ar agor yn fuan |
Noson agored amser llawn | 17 Mawrth 2025 | Cofrestru ar agor yn fuan |
Manylion Cyswllt
Heol Belgrave
Gorseinon
Abertawe
SA4 6RD
Ffôn: 01792 890700
Oriau Agor yn ystod y Tymor
Dydd Llun i Ddydd Iau - 8.30am i 5pm
Gwener - 8.30am i 4.30pm
Cer ar daith rithwir o amgylch Campws Gorseinon i gael cip ar yr ystafelloedd dosbarth, ardaloedd cyffredin a’r cyfleusterau sydd ar gael i’n myfyrwyr amser llawn.
Cer am dro o amgylch cartref ein myfyrwyr ar gampws Gorseinon. Mae gan y Bloc Celfyddydau gyfleusterau ar gyfer celfyddydau cain, celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, ffotograffiaeth yn ogystal â Chanolfan Ffasiwn a Thecstilau.
Cer am dro o amgylch Theatr Einon, ein llwyfan ar gyfer myfyrwyr celfyddydau perfformio a chynhyrchu theatr.