Skip to main content

Llyfrgelloedd

Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig ystod eang o adnoddau a gwasanaethau cymorth y gallwch eu defnyddio yn bersonol ac ar-lein. Mae nifer o lyfrgelloedd wedi’u dotio ar draws ein campysau a gall Ymgynghorwyr Llyfrgell arbenigol eich helpu i ymchwilio mewn amgylchedd dysgu hamddenol.

Mwy na llyfrgell

Amrywiaeth eang o adnoddau
Ardaloedd astudio, ystafelloedd tawel ac ardaloedd ymlacio
Mynediad 24/7 i adnoddau electronig
Cyfrifiaduron Personol a benthyg gliniaduron
Argraffu, sganio a llungopïo
Staff gwybodus a chefnogol
Cymorth un i un
Ardaloedd dysgu cyfunol
Siop bapurach

Cymorth anabledd a hygyrchedd 

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd cynhwysol a chroesawgar i bawb, waeth beth fo’u gallu.

Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau i helpu unigolion ag anableddau. Rydym yn cynnig offer hygyrch, technoleg gynorthwyol, fformatau amgen a chymorth un-i-un.

Rhagor o wybodaeth

Ymgynghorwyr Llyfrgell

Gall Ymgynghorwyr Llyfrgell eich helpu trwy gynnig amrywiaeth eang o gymorth academaidd, gan gynnwys:

Dod o hyd i adnoddau cysylltiedig â chyrsiau
Prawfddarllen
Canllawiau cyfeirnodi
Turnitin
Sgiliau adolygu a TG
Defnyddio apiau, Teams ac ati
Ceisiadau
Datganiadau personol
CV