Disgowntiau i Fyfyrwyr
Mae’n wych bod yn fyfyriwr! A’r hyn sy’n well fyth yw bod Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i’ch helpu i arbed arian ar y pethau rydych chi’n hoff iawn ohonynt ac sydd eu hangen arnoch.
Wrth ymuno â’r Coleg, cewch fynediad awtomatig i nifer o wefannau ac apiau disgownt i fyfyrwyr.
Archwiliwch y dudalen hon i ddarganfod y disgowntiau niferus y gall myfyrwyr eu mwynhau.
TOTUM: Eich allwedd i arbedion mawr
Mae TOTUM yn rhaglen ddisgowntiau i fyfyrwyr sy’n cynnig bargeinion anhygoel ar dechnoleg, teithio, ffasiwn, harddwch, bwyd a diod, a mwy!
Bydd cofrestru ar gyfer cerdyn TOTUM yn golygu y gallwch sicrhau arian oddi ar eich hoff frandiau, ennill cerdyn adnabod am ddim, ac os byddwch yn cofrestru ar gyfer mynediad premiwm, bydd arian o’ch cofrestriad yn mynd yn syth i’n Hundeb y Myfyrwyr.
Beth gewch chi gydag aelodaeth TOTUM?
- Mynediad i dros 600 o ddisgowntiau rhyfeddol i fyfyrwyr ar fwy na 400 o frandiau mawr.
- Gallwch gael hyd at 14% o’ch arian yn ôl ar eich siopa yn yr archfarchnad gyda cherdyn VISA rhagdalu TOTUM Cashback.
- Arbedwch 25% ar goffi tecawê a bwyta allan gyda cherdyn blasu AM DDIM ac aelodaeth o’r Clwb Coffi.
- Cewch gerdyn adnabod am ddim sy’n profi eich oedran, wedi’i gymeradwyo gan y llywodraeth.
- A llawer mwy!
Cofrestrwch ar gyfer TOTUM heddiw a dechrau gwneud arbedion!
Peidiwch â cholli’r disgowntiau anhygoel hyn i fyfyrwyr! Cofrestrwch heddiw a dechrau gwneud arbedion ar eich costau pob dydd.
UNiDAYS
Mae Uni Days yn rhaglen ddisgowntiau i fyfyrwyr sy’n cynnig bargeinion ar bopeth o ffasiwn i dechnoleg. Gyda chyfrif UNiDAYS, gallwch gael disgowntiau ecsgliwsif ar y brandiau gorau fel Urban Outfitters, Topshop, a mwy.
Student Beans
Mae Student Beans yn rhaglen ddisgowntiau boblogaidd arall i fyfyrwyr sy’n cynnig bargeinion ecsgliwsif ar ffasiwn, teithio, bwyd a mwy. Gyda chyfrif Student Beans, cewch fynediad yn syth i ddisgowntiau ar y brandiau gorau fel ASOS, Apple, a mwy.