Skip to main content

Sut i Wneud Cais i Astudio Cwrs Addysg Uwch

Llwybrau Addysg Uwch wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw

Nid yw Addysg Uwch yn opsiwn sy’n gweddu i bawb. Ond yng ngholeg Gŵyr Abertawe, gallwch astudio cyrsiau gradd amser llawn, rhan-amser, cyrsiau gyda’r nos neu brentisiaethau. Ddim yn siŵr os ydych chi’n gallu ymrwymo i gwrs tair blynedd? Gallwch ddechrau a stopio eich llwybr trwy gwblhau un flwyddyn ar y tro, gan symud ymlaen pan fyddwch chi’n barod ar gyfer y cam nesaf.

Rydyn ni’n cynnig grwpiau bach, dulliau dysgu rhyngweithiol, cymorth cynhwysfawr a chysylltiadau agos â chyflogwyr lleol. Mae ein Cymwysterau Cenedlaethol Uwch wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion y diwydiant, gyda’r dysgu a’r asesiadau yn canolbwyntio ar wybodaeth a thasgau sy’n berthnasol i’r byd go iawn. 

P’un ai a ydych chi’n symud ymlaen i addysg uwch am y tro cyntaf, yn newid gyrfa neu yn adeiladu ar y profiad sydd gennych yn barod, gallwn ni eich helpu i ddeall yr opsiynau Addysg Uwch sydd ar gael i chi. 

Sut i wneud cais

Cam 1 – Dewis cwrs

Dewiswch gwrs sy’n addas i’r ffordd rydych chi eisiau dysgu e.e. cwrs amser llawn, rhan-amser, dosbarthiadau gyda’r nos neu brentisiaeth.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio gofynion mynediad y cwrs ac yn nodi'r cod UCAS ar gyfer cyrsiau amser llawn.

Cyrsiau sydd ar gael

Cam 2 – Gwneud cais

Cyrsiau amser llawn 

Os ydych chi am wneud cais am gwrs Addysg Uwch amser llawn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS (System Derbyn Prifysgolion a Cholegau). Gallwch ddod o hyd i god cwrs UCAS a dolen cais ar dudalen y cwrs.

Ein cod sefydliad yw G59

Os ydych chi eisiau derbyn cyngor o ran llenwi eich ffurflen gais, mae gan UCAS ganllaw cam wrth gam i'ch helpu, neu gallwch gysylltu â Beth Hughes (Swyddog Derbyn a Dilyniant) - HE@gcs.ac.uk

Gwiriwch wefan UCAS i weld dyddiadau cau ceisiadau.

Myfyrwyr GCS presennol 

Opsiwn 1 - Os hoffech wneud cais i fwy nag un Brifysgol neu Goleg (gan gynnwys Coleg Gŵyr Abertawe), mae angen i chi wneud cais drwy UCAS.

Opsiwn 2 - Llwybr cais uniongyrchol CGA 

Os ydych chi am wneud cais i astudio cyrsiau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac yn bodloni'r gofynion mynediad, gallwch wneud cais drwy lwybr ymgeisio uniongyrchol CGA. System fewnol yw hon sy’n cael ei gweithredu o fewn y Coleg. Siaradwch â'ch tiwtor.

Os ydych wedi dechrau cwblhau cais UCAS, bydd angen i chi barhau â'r llwybr hwnnw.

Cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn AU os oes angen help neu arweiniad arnoch HE@gcs.ac.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cyntaf fydd 13 Ionawr 2027 (yn unol ag UCAS). Gallwch wneud cais ar ôl y dyddiad hwn ond mae gwneud cais erbyn y dyddiad cau yn cynyddu eich siawns o sicrhau lle ar y cwrs. Byddem yn eich annog i gyflwyno cais yn gynnar, fel bod gennych ddigon o amser i sortio eich Cyllid Myfyrwyr.

Cyrsiau rhan-amser

Os hoffech wneud cais i astudio cwrs Addysg Uwch rhan-amser, gallwch wneud cais yn uniongyrchol trwy ein porth ymgeisio.

Bydd angen i chi greu cyfrif, parhau â’ch cais neu fewngofnodi i gyfrif sy'n bodoli eisoes. Os ydych chi'n newydd i'r Coleg, neu heb astudio gyda ni yn ddiweddar, bydd angen i chi greu cyfrif. Os ydych chi'n fyfyriwr presennol, gallwch fewngofnodi gan ddefnyddio eich Cyfeirnod a Chyfrinair Coleg.

Mae gan bob cerdyn cwrs rhan-amser opsiwn 'Gwneud cais (rhan-amser)' a fydd yn eich cyfeirio at ffurflen gais ar gyfer y cwrs penodol hwnnw.

Prentisiaid – Os ydych chi'n  brentis newydd neu yn brentis presennol, rhaid i chi  wneud cais am y Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) drwy'r llwybr ymgeisio rhan-amser.

Os ydych chi'n newydd i'r Coleg ac yn dymuno gwneud cais i astudio prentisiaeth, bydd angen i chi wneud hyn ar wahân. Bydd Aseswr Dysgu Seiliedig ar Waith yn cysylltu â phrentisiaid presennol sy'n symud ymlaen i gofrestru ar gyfer y lefel nesaf o’u cwrs.