Sut i Wneud Cais
Dewis eich cwrs
Meddyliwch am y pynciau rydych yn llwyddo orau ynddynt a’r hyn rydych yn mwynhau ei astudio. Mae rhai pynciau’n cael eu hasesu trwy arholiadau, ac mae eraill yn cyfuno gwaith cwrs ac arholiadau, felly chwiliwch am y cwrs sy’n fwyaf addas i chi. Cofiwch edrych ar ofynion mynediad y cwrs.
Gwneud cais
Po gynharaf y byddwch chi’n gwneud cais, y mwyaf o siawns sydd gennych o sicrhau lle ar eich cwrs dewis cyntaf. Ar ôl dewis eich cwrs, cliciwch y botwm Gwneud Cais Nawr ar dudalen y cwrs a llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Os ydych chi’n gwneud cais i astudio mwy nag un cwrs - e.e. Safon Uwch - bydd angen i chi glicio ‘gwneud cais nawr’ ar y tudalen cyrsiau. Yna, gallwch ychwanegu’r holl gyrsiau ar ddiwedd y ffurflen gais.
Bydd angen i chi greu cyfrif, parhau â’ch cais neu fewngofnodi i gyfrif sy’n bodoli eisoes. Os ydych chi newydd ddechrau yn y Coleg, neu os nad ydych chi wedi astudio gyda ni yn ddiweddar, bydd angen i chi greu cyfrif gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost (peidiwch â defnyddio cyfeiriad Hwb). Os ydych chi’n fyfyriwr presennol, gallwch fewngofnodi drwy ddefnyddio eich Cyfeirnod Adnabod a’ch cyfrinair Coleg.
Cynnig coleg a chyfweliad
Ar ôl i chi wneud cais, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad. Rydym am wneud yn siŵr bod gennych yr holl gymorth sydd ei angen arnoch drwy gydol y broses ymgeisio a’ch bod yn dewis y cwrs sy’n iawn i chi. Mae ein staff ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cwrs a’r Coleg.
Cofrestru
Cewch eich gwahodd i ddod i’r Coleg i gofrestru ar ôl gorffen eich arholiadau TGAU. Peidiwch â phryderu os nad ydych yn cael y canlyniadau TGAU roeddech chi’n eu disgwyl neu roedd eu hangen arnoch i ddilyn y cwrs o’ch dewis – dewch i’ch apwyntiad a gallwn fynd trwy’r opsiynau gyda chi. Mae cwrs ar gael i bawb.
Dechrau
Mae bywyd myfyriwr yn dechrau gyda llawer o weithgareddau i’ch helpu i ymgartrefu yn y Coleg a gwneud ffrindiau newydd. Byddwch hefyd yn cwrdd â’ch tiwtor, cael eich amserlen a phopeth arall sydd ei angen arnoch i sicrhau bod eich taith fel myfyriwr yn dechrau’n dda!
Angen rhagor o gyngor ac arweiniad? Cysylltwch â’n tîm derbyn admissions@gcs.ac.uk.