Cyflogwyr
Coleg Gŵyr Abertawe yw un o brif ddarparwyr Prentisiaethau Cymru, ac rydym yn cynnig ystod eang o raglenni prentisiaethau arobryn yng Nghymru a Lloegr.
Rydym yn gweithio gydag ystod eang o gyflogwyr mewn amrywiaeth o wahanol ddiwydiannau, gan gynnig atebion hyfforddi i helpu recriwtio staff newydd neu uwchsgilio staff presennol. Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i deilwra rhaglenni hyfforddi i ddiwallu eich anghenion, a gall ein darpariaeth gynnwys cyfuniad o ddysgu seiliedig ar waith, sesiynau yn yr ystafell ddosbarth a dysgu o bell. Cynigiwn y fath hyblygrwydd i fodloni anghenion a gofynion eich sefydliad.
Gall cyflogwyr sy’n gweithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe ddisgwyl cymorth o’r radd flaenaf i ddysgwyr, cymorth recriwtio, darpariaeth bwrpasol wedi’i theilwra i’ch anghenion, adroddiadau rheolaidd ar weithgarwch y Coleg, cymorth i ddatblygu atebion hyfforddi newydd yn ogystal â chyllid neu ganllawiau ar ardollau i sicrhau’r defnydd gorau o amser a’r gwerth gorau am arian, ynghyd ag adenillion o fuddsoddi.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i gyflogwyr, cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr: training@gcs.ac.uk neu 01792 284400.
Llwybrau Datblygu
Rydym yn cynnig mwy nag 82 o lwybrau prentisiaeth, yn amrywio o brentisiaethau Lefel 2 i brentisiaethau lefel gradd. Mae gennym lwybrau prentisiaeth traddodiadol megis Gwaith Coed a Gwaith Trydan, yn ogystal â llwybrau newydd megis Arwain a Rheoli, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Digidol a llawer mwy!
Buddion i gyflogwyr
Trwy weithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe, bydd cyflogwyr yn elwa o:
- Well gynhyrchiant gweithwyr
- Gwell perfformiad ac ysbryd tîm
- Gwell sgiliau mewnol o fewn y cwmni
- Mynediad at lwybrau cyllid a grantiau
- Costau hyfforddi a recriwtio is
- Y gallu i lenwi bylchau mewn sgiliau trwy recriwtio staff newydd neu uwchsgilio staff presennol
Pam cyflogi prentis?
Gall cyflogi prentis fod o fudd i’ch sefydliad mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:
- Creu gweithlu mewnol cymwys, medrus a llawn cymhelliant
- Hyfforddiant a datblygiad pwrpasol i weddu i anghenion a gofynion eich sefydliad
- Prentisiaid brwdfrydig sy’n meithrin y sgiliau, y wybodaeth a’r ymddygiadau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt
- Ffordd gost-effeithiol o feithrin talent
Straeon cyflogwyr
Rydym yn gweithio gydag ystod eang o gyflogwyr mawr a bach mewn amrywiaeth o wahanol ddiwydiannau a sectorau.
Clywch beth sydd gan rai o'n cyflogwyr partner i'w ddweud!
Cliciwch y botwm ar ochr dde uchaf y fideo i weld mwy.
Gwobrau Prentisiaethau
Cynhaliwyd Gwobrau Prentisiaethau eleni ar ddydd Llun 5 Chwefror 2024.
Anrhydeddau
Anrhydeddau
Yn ddiweddar, enillodd Coleg Gŵyr Abertawe wobr Ehangu Cyfranogiad yng ‘Ngwobrau Beacon’ Cymdeithas y Colegau 2023/24. Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchiad o fenter ‘Prentisiaethau i Bawb’ llwyddiannus y Coleg a’i effaith gadarnhaol ar gynyddu niferoedd recriwtio a chyfraddau cyflawniad prentisiaid ag anableddau, anghenion dysgu ychwanegol, cyflyrau iechyd corfforol neu feddwl.
Yn 2022/23, fe enillodd Coleg Gŵyr Abertawe Wobr Beacon ar gyfer Rhyngwladoldeb, o ganlyniad i’r amrywiaeth eang o fentrau a gynigir i ddatblygu ein dysgwyr, staff, cyflogwyr a chymunedau.
Hefyd yn 2022 fe enillodd y Coleg ddwy wobr yng Nghynhadledd Prentisiaethau Flynyddol y DU:
- Darparwr Prentisiaeth Iechyd a Gofal y Flwyddyn 2022
- Hyrwyddwr SEND y Flwyddyn (Darparwr) 2022
Ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth Rachel Jones, Cyfarwyddwr Dysgu Seiliedig ar Waith Coleg Gŵyr Abertawe ennill Gwobr Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru (categori Sgiliau).
Enillodd y Coleg wobr Times Educational Supplement AU (TES) yn 2021 ar gyfer Rhaglen Brentisiaeth y flwyddyn.
Cawsom ein coroni hefyd yn enillwyr mewn dau gategori yng Ngwobrau AAC Blynyddol y DU yn 2021.
- Darparwr Prentisiaeth Digidol y Flwyddyn 2021
- Darparwr Prentisiaeth Peirianneg a Gweithgynhyrchu y Flwyddyn 2021
Yn ogystal, fe wnaethom ennill dwy wobr yng Ngwobrau AAC DU yn 2019
- Darparwr Prentisiaethau Iechyd a Gwyddoniaeth y Flwyddyn 2019.
- Cyfraniad Rhagorol i Ddatblygiad Prentisiaethau, Steve Williams 2019.
Ein partneriaid
Mae’r Coleg yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid mewn ystod o feysydd gwahanol. Dyma rai o’r cyflogwyr rydym yn gweithio gyda nhw:
Cwestiynau Cyffredin
Cyfle i ddysgwyr ennill hyfforddiant ymarferol yn y byd go iawn wrth sicrhau cymhwyster cydnabyddedig. Fel prentis, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan feithrin y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Bydd hyd bob prentisiaeth yn amrywio yn dibynnu ar lefel y cymhwyster. Ond fel arfer, bydd prentisiaeth yn cymryd 12-24 mis i’w gwblhau.
Ni fydd cyflogwyr yn talu am brentisiaethau. Gall Coleg Gŵyr Abertawe ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru i dalu am gostau darparu neu hyfforddi. Fodd bynnag, disgwylir i gyflogwyr dalu cyflog y prentis.
I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i brentisiaid fod mewn cyflogaeth am o leiaf 16 awr yr wythnos a rhaid iddynt fod yn byw yng Nghymru. Rhaid talu’r isafswm cyflog prentisiaethau (o leiaf), sef £5.28 yr awr, ond, gall cyflogwyr bennu’r cyflog.
Mae’r rhan fwyaf o’n prentisiaethau yn dechrau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, sy’n caniatáu i’r aelod o staff ddechrau ar gyfnod sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r cyflogwr. Fodd bynnag, bydd rhai prentisiaethau yn dechrau ym mis Medi i gyd-fynd â diwrnodau dysgu'r Coleg. Siaradwch â'n tîm i gael rhagor o wybodaeth: training@gcs.ac.uk neu 01792 284400.
Gall prentisiaethau fod yn fanteisiol i sefydliadau mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys lleihau costau recriwtio, gwella cyfraddau cadw a boddhad staff, llenwi unrhyw fylchau mewn sgiliau, meithrin sgiliau mewnol, hybu amrywiaeth o fewn eich tîm a llawer mwy!
Bydd dull darparu ein prentisiaethau yn amrywio yn dibynnu ar lwybr y rhaglen, ond gellir darparu’r mwyafrif o’n prentisiaethau yn unol ag anghenion y dysgwr a’r cyflogwr. Gallwn gynnig gweithdai yn yr ystafell ddosbarth, darpariaeth o bell ar Teams neu Zoom neu ddull hybrid.
Wrth gwrs! Ar ôl cwblhau prentisiaeth, gall dysgwyr symud ymlaen i astudio lefel nesaf y brentisiaeth, astudio prentisiaeth arall neu ymgymryd â chymhwyster byrrach.
Rydym yn deall pwysigrwydd dod o hyd i’r prentis cywir ar gyfer eich sefydliad, ac mae ein tîm yma i’ch helpu chi. Gallwn drafod eich anghenion gan gynnwys nodau ac amcanion cyffredinol eich sefydliad, dulliau o hyrwyddo swyddi gwag, digwyddiadau perthnasol, sut i ddod o hyd i ymgeiswyr addas a llawer mwy. Cysylltwch â ni heddiw i ddechrau’r broses training@gcs.ac.uk - 01792 284400.
Os yw’r prentis yn sâl am gyfnod hir neu’n absennol oherwydd cyfnod mamolaeth/tadolaeth yn ystod y brentisiaeth, gall y Coleg oedi’r rhaglen gan ei hailddechrau unwaith y bydd y prentis yn dychwelyd i’r gweithle.