Os ydych wedi defnyddio technoleg gynorthwyol yn yr ysgol neu yn y gweithle, rhowch wybod i ni. Mae gennym Gydlynydd Technoleg Gynorthwyol sy’n sicrhau bod eich holl anghenion technoleg yn cael eu hateb.
Mae’r pecyn cymorth hwn hefyd yn darparu hyfforddiant arbenigol un-i-un ar gyfer technoleg newydd a chymorth parhaus. Mae’r opsiynau sydd ar gael yn cynnwys:
- Cyfrifiaduron pen bwrdd wedi’u haddasu (bysellfyrddau a llygod amgen)
- Meddalwedd darllen ac ysgrifennu arbenigol (cymorth llythrennedd ‘Read&Write’)
- Wordshark
- Cymorth chwyddo (magnification).
Os oes gennych unrhyw anghenion technoleg gynorthwyol, gallwch siarad â’n cydlynydd, yn ddelfrydol cyn dechrau’ch cwrs.
Martin Cartmill
Martin.cartmill@gcs.ac.uk