Mae’r Coleg yn cynnig Bwrsari blynyddol i Fyfyrwyr AU Amser Llawn sy’n astudio rhaglenni sydd wedi’u breinio gan Sefydliadau Addysg Uwch. Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr waeth beth yw blwyddyn eu cwrs.
Ar gyfer cyrsiau sy’n cael eu breinio gan Brifysgolion, mae’r bwrsari yn £1000 y flwyddyn.
Rhennir y bwrsari yn ddau daliad cyfartal. Darperir y bwrsari gan Goleg Gŵyr Abertawe ac nid yw’n ddibynnol ar unrhyw bolisïau breiniol Sefydliadau Addysg Uwch e.e. Presenoldeb Gofynnol.
Os oes rhaid i fyfyrwyr amser llawn ail-wneud blwyddyn lawn (120 credyd) byddan nhw’n gymwys i gael bwrsari yn ystod y flwyddyn honno. Os yw myfyrwyr amser llawn yn ail-wneud modiwlau (llai na 120 credyd) bydd y bwrsari yn cael ei roi yn seiliedig ar ddwysedd astudio pro rata e.e. byddai myfyrwyr sy’n ail-wneud 60 credyd yn astudio ar ddwysedd o 50% a bydden nhw’n derbyn dau daliad o £250 y flwyddyn.
Bwrsari Cychwynnol– Bwrsari Cynnydd (Chwefror/Mawrth)
Er mwyn derbyn y taliad cyntaf rhaid i fyfyrwyr ddiwallu’r gofynion canlynol erbyn 31 Ionawr:
- Presenoldeb o 70%
- Cyflwyno pob aseiniad erbyn y dyddiad cywir*1
- Cyflwyno copi o setliad boddhaol o ffioedd / tystiolaeth o drefniadau Cyllid Myfyrwyr (e.e. llythyr grant) i dîm Cyllid y Coleg.
Os na ddiwallir y meini prawf uchod, ni fydd y taliad cychwynnol o £500 yn cael ei wneud.
*1 Pan fo myfyriwr yn cyflwyno cais i beidio â chyflwyno gwaith oherwydd amgylchiadau esgusodol, bydd y bwrsari yn cael ei rhoi i’r unigolyn os caniateir y cais hynny. Bydd dyddiad cau newydd ar gyfer gwaith yr unigolyn yn cael ei drefnu. Mae hyn yn debygol o oedi’r broses o ddosbarthu’r bwrsari.
Bwrsari Diwedd Blwyddyn – Bwrsari Cwblhau (Mai/Mehefin)
Er mwyn derbyn yr ail fwrsari rhaid i fyfyrwyr ddiwallu’r gofynion canlynol:
Cyrsiau Blwyddyn
- Cadarnhad gan y bwrdd arholi terfynol (neu fwrdd cyfatebol) eich bod wedi derbyn Dyfarniad cyfan y cwrs
*os cadarnheir eich dyfarniad gan fwrdd arholi hwyr e.e. bwrdd ailsefyll, bydd taliad y bwrsari yn cael ei oedi.
Blwyddyn Gyntaf Cyrsiau Dwy Flynedd
- Cadarnhad gan y bwrdd arholi terfynol (neu fwrdd cyfatebol) eich bod wedi cyflawni’r gofynion ar gyfer symud ymlaen i ail flwyddyn y cwrs
*Os cadarnheir yr uchod gan fwrdd arholi hwyr e.e. bwrdd ailsefyll, bydd taliad y bwrsari yn cael ei oedi.
Ail Flwyddyn Cyrsiau Dwy Flynedd
- Cadarnhad gan y bwrdd arholi terfynol (neu fwrdd cyfatebol) eich bod wedi cwblhau’r cwrs
*Os cadarnheir hyn gan fwrdd arholi hwyr e.e. bwrdd ailsefyll, bydd taliad y bwrsari yn cael ei oedi.
Bydd yr un meini prawf yn berthnasol i gyrsiau sy’n hirach na dwy flynedd. Ar hyn o bryd does dim cyrsiau yn cael eu cyflwyno dros gyfnod sy’n hirach na dwy flynedd.