Digwyddiadau a Nosweithiau Agored
Nosweithiau agored
Mae ein nosweithiau agored yn rhoi’r cyfle perffaith i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Ymunwch â ni i ddarganfod yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael, cwrdd â’r darlithwyr, a chael yr atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych.

20 Mehefin
Ffair prentisiaethau
3.30-7.30pm
Campws Tycoch
Mae ffair recriwtio Coleg Gŵyr Abertawe’n gyfle i ddarganfod mwy am ein darpariaeth prentisiaethau uchel ei barch, gan ddechrau ar daith drawsnewidiol tuag at yrfa gwerth chweil!

1 Gorffennaf
Noson agored addysg i oedolion
Campws Tycoch
Darganfyddwch gyfleoedd newydd yn ein Noson Agored i Oedolion - archwiliwch addysg ran-amser, uwch ac opsiynau prentisiaethau!

9 Medi
Noson agored addysg i oedolion
Campws Tycoch
Darganfyddwch gyfleoedd newydd yn ein Noson Agored i Oedolion - archwiliwch addysg ran-amser, uwch ac opsiynau prentisiaethau!
Digwyddiadau eraill

21 Mai
Hetiau Caled a Choffi Cynnes
8.30-11am
Ysgol Fusnes Plas Sgeti
Ymunwch â ni yn nigwyddiad Hetiau Caled a Choffi Cynnes – digwyddiad unig o’i fath ar gyfer cyflogwyr y sector adeiladu.
Mae’r digwyddiad arbennig hwn yn gyfle i chi archwilio darpariaeth Amgylchedd Adeiledig Coleg Gŵyr Abertawe, gan ddarganfod cyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaethau cyfredol ar gyfer eich cwmni. Trwy wneud hyn, byddwch yn helpu siapio sgiliau crefftau De Cymru ar gyfer y dyfodol.