Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Gallai gyrfa lewyrchus fod yn aros amdanoch ym meysydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
Yn Ne-orllewin Cymru, mae’r sector Iechyd a Gofal yn darparu llawer o swyddi, gan gyfrif am dros 17% o’r holl gyflogaeth*.
Mae’r sector gofal plant hefyd yn tyfu, a disgwylir iddo gynyddu 3.6% rhwng 2023 a 2030 yng Nghymru*. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o alw am weithwyr proffesiynol medrus yn y meysydd hyn.
*Gwybodaeth am y farchnad lafur
Llwybrau gyrfa
- Cynorthwyydd ysgol feithrin
- Gweithiwr chwarae
- Gwaith cymdeithasol
- Therapi galwedigaethol
- Nyrsio
- Bydwreigiaeth
- Gwaith ieuenctid
- Cwnsela
- Therapi chwarae
- Cynorthwyydd cymorth dysgu
Sicrhau eich dyfodol
Mae gennym y cyfleoedd dilyniant canlynol yn y Coleg:
- Gradd Sylfaen mewn Ymarfer Datblygiad Plentyndod
- Prentisiaeth Uwch mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Lefel 4)
Fel arall, gallech chi symud ymlaen i’r brifysgol neu gael cyflogaeth yn y diwydiant.
Cyrsiau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1 - Diploma Rhagarweiniol
Lefel 1 BTEC Certificate
Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau - Diploma Estynedig Lefel 3
Lefel 3 BTEC Extended Diploma
Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion, Plant a Phobl Ifanc - Lefel 2
Lefel 2 BTEC Diploma
Safon Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Lefel 3 A Level
Newyddion
Darlithydd gofal plant yn ennill gwobr ‘athro gorau’
Derbyniodd Rhian Evans y wobr mewn seremoni wobrwyo arbennig yn Neuadd Sychdyn, Sir y Fflint, lle cyhoeddwyd yr enillwyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS.
Dyma’r tro cyntaf i’r gwobrau addysgu fod ar agor i golegau addysg bellach yn ogystal ag ysgolion.
Enwebwyd Rhian gan ei myfyrwyr Gofal Plant, a’i disgrifiodd yn eu cyflwyniad fel ‘angel ar eu hysgwydd’. Sonion nhw am ei gallu i wneud yr ‘amhosibl ymddangos yn bosibl’, ni waeth beth yw’r heriau personol y maen nhw’n eu hwynebu.
Yn ogystal â’i hymrwymiadau addysgu, Rhian yw un o hyrwyddwyr dwyieithrwydd y Coleg, sy’n helpu cydweithwyr a myfyrwyr i fagu hyder yn yr iaith Gymraeg.