Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gofal Plant Lefel 1 - Diploma Rhagarweiniol
Trosolwg
Bwriedir y cwrs Lefel 1 hwn yn benodol ar gyfer dysgwyr 16+ oed. Mae’n gyflwyniad perffaith i’r sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen ar gyfer swydd gofal plant. Mae’r cwrs yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer eich gyrfa yn y blynyddoedd cynnar, p’un a ydych chi am weithio mewn meithrinfeydd, ysgolion neu fel gwarchodwr plant.
Dros y flwyddyn, bydd sesiynau’n cael eu haddysgu yn y Coleg gan staff cyfeillgar, cefnogol a gwybodus a chewch gyfle i fynd i leoliadau mewn meithrinfeydd dydd ac ysgolion.
Gwybodaeth allweddol
- Gradd E mewn TGAU Saesneg Iaith a gradd D arall ar lefel TGAU, neu rai cymwysterau mynediad Lefel 3 gydag adroddiad tiwtor cadarnhaol
- Rhaid i chi gwblhau gwiriad DBS cyn cofrestru ar y cwrs (tua £40).
Asesir y cwrs hwn drwy aseiniadau ysgrifenedig lle cewch radd pasio neu fethu. Bydd y pynciau yn cynnwys llawer am ddatblygiad plant a’r sgiliau sydd eu hangen i ddechrau gyrfa mewn gofal plant. Bydd hyn yn cynnwys dangos eich sgiliau mewn lleoliad drwy baratoi gweithgareddau bach i blant.
Bydd pasio’r cwrs yn rhoi cyfleoedd i chi wneud cais am Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 (amser llawn, rhan-amser neu brentisiaeth).
- Bydd ein haseswyr medrus yn dod o hyd i leoliadau addas i chi pan fyddwch yn dechrau gyda ni.
- Bydd angen gwiriad DBS glân (gwiriad heddlu) cyn dechrau.