Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn angerddol dros les staff oherwydd rydym yn gwerthfawrogi ac yn gofalu am ein gweithlu. Rydym yn credu bod lles yn ganolog i hyrwyddo bywydau gwaith gwell.
Rydym yn falch bod ein holl reolwyr yn swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl ac, ar y cyd â’n hyrwyddwyr Amser i Siarad, rydym yn ymrwymedig i ddileu’r stigma ynghylch iechyd meddwl.
Rydym yn rhoi mynediad rhad ac am ddim i’n staff i’r ap myfyrio Headspace, ac mae gennym ein Cynghorwr Lles mewnol ein hunain sy’n gallu rhoi cymorth personol i gydweithwyr.
Rydym yn darparu llinell gymorth gyfrinachol am ddim i’n holl staff i’n rhaglen cymorth gweithwyr, sef Health Assured. Mae staff yn gallu manteisio ar gwnsela, siarad â llinell gymorth gyfreithiol neu fanteisio ar amrywiaeth o gymorth lles ar eu tudalen we.
Mae’r Coleg wedi addo ymrwymo i nifer o fentrau sy’n bwysig yn ein barn ni, megis y Rhuban Gwyn, Amser i Siarad a Menopos yn y Gwaith.
Mae’r grŵp hwn yn grŵp o staff angerddol, ymroddedig a brwdfrydig o bob rhan o’r Coleg sy’n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’r mentrau a’r ymgyrchoedd lles.
Bob wythnos mae staff yn cael mynediad i lawer o weithgareddau cyflenwol fel dosbarthiadau ffitrwydd, hypnotherapi, tylino chwaraeon, caffis menopos a chyngor un-i-un ar faeth ac ymarfer corff. Rydym hefyd yn cynnig aelodaeth gyda disgownt i weithwyr a’u teuluoedd yn ein canolfan chwaraeon.
Mae ein diwrnod lles yn y gwaith blynyddol ym mis Gorffennaf yn annog i’r gymuned staff ddod at ei gilydd i fwynhau gweithgareddau lles a chael hwyl.
Yn olaf, rydym yn falch o gyrraedd rownd derfynol Gwobr Lles yn y Gweithle Busnes yn y Gymuned Ymddiriedolaeth y Tywysog 2021 ac o fod wedi cyflawni Safonau Iechyd Corfforaethol Efydd, Arian ac Aur.