Gall ein darlithwyr profiadol gynnig cymorth un-i-un ac asesiadau personol i dy helpu gyda dysgu annibynnol. Byddan nhw hefyd yn rhoi gwersi i gyflwyno ffyrdd newydd o weithio a chytuno ar gynllun dysgu ychwanegol gyda ti i sicrhau dy fod ti’n gyrraedd dy nodau.
Cynnig darpariaeth dysgu
Cymorth ar gael i bawb.
Mae sesiynau grŵp ac unigol gyda Hyfforddwyr Cynnydd a Mentoriaid Lles ar gael i dy helpu i ddatblygu sgiliau.
- Cymorth yn y dosbarth: Gan dîm o Gynorthwywyr Cymorth Dysgu sydd ar gael os wyt ti’n dilyn unrhyw gyrsiau Sylfaen a Lefel 1.
- Technoleg gynorthwyol: Mae meddalwedd darllen ac ysgrifennu ar gael pan fydd ei angen arnat, ym mhob cwrs.
- Dysgu effeithiol: Mae ein staff addysgu profiadol wedi’u hyfforddi i sicrhau bod pob gwers yn gynhwysol.
- Sgiliau astudio: Mae ein tîm y llyfrgell yn cynnig sesiynau i gefnogi dy waith astudio ac adolygu.
Technolegau cynorthwyol
Yn dilyn cyfarfod ac asesiad cychwynnol gyda’n tîm llyfrgell, gallwn roi adnoddau i ti i gefnogi dy ddysgu, fel:
- Arweiniad a hyfforddiant ar feddalwedd cynorthwyol
- Gliniaduron/Chromebooks o’r llyfrgell
- Dewisiadau amgen i fysellfwrdd a llygoden os bydd eu hangen
- Dyfeisiau chwyddo cludadwy.
Cynlluniau datblygu unigol
Mae’n bosib y bydd angen Darpariaeth Dysgu Ychwanegol ar ddysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) nad yw eu hanghenion yn cael eu hateb gan ddarpariaeth arferol y Coleg. Pan fydd angen Darpariaeth Dysgu Ychwanegol, mae’n debygol y bydd Cynllun Datblygu Unigol wedi cael ei baratoi cyn i’r dysgwr ymuno â’r Coleg, sy’n amlinellu’r hyn sydd ei angen.
Os oes gennyt unrhyw gwestiynau am ADY, Darpariaeth Dysgu Ychwanegol neu Gynlluniau Datblygu Unigol, siarada â dy Diwtor Personol neu e-bostia: learningsupport@gcs.ac.uk.
Bydd pob dysgwr sydd â Chynllun Datblygu Unigol yn cael mynediad at Gydlynydd Cynllun Datblygu Unigol sydd yn athro/athrawes gymwysedig ag arbenigedd mewn ADY.
Cwrdd â’r tîm
- Emma Jones
- Emma Davies
- Stacey Bevan
- Hilary Langston
- Gwyneth Morgan-Chan
- Jody Ralph
- Rebecca Thomas.
Rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth am ADY i’w gweld yn y dolenni isod: