Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydyn ni’n ymrwymedig i dy gynorthwyo bob cam o’r ffordd – cyn i ti ymuno â ni, yn ystod dy amser fel myfyriwr, ac wrth i ti baratoi ar gyfer bywyd ar ôl coleg.
Rydyn ni’n gwybod bod symud o’r ysgol i’r coleg yn gallu teimlo fel newid mawr, ac felly mae ein tîm Cymorth Dysgu yn gweithio gyda ti, dy deulu a gweithwyr proffesiynol eraill i wneud y broses mor llyfn ag sy’n bosib.
P’un a oes angen cyngor arnat, arweiniad ychwanegol, neu gynllun mwy personol, rydyn ni yma i dy helpu i lwyddo. Os oes angen dull mwy personol arnat, gallwn ni ddarparu cymorth wedi’i deilwra drwy gydol y broses bontio. Mae’r penderfyniadau oll am gymorth yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael eu cytuno yn ystod ein Panel Mynediad i Addysg wythnosol.
Cwrdd â’n tîm pontio:
- Sarah Jago – Swyddog Gweinyddol IDP
- Sarah Evans – Swyddog Pontio ac Adolygu
- Allison Willock – Swyddog Pontio ac Adolygu
- Tracey Macklin – Swyddog Pontio ac Adolygu.
Cymorth cyn dechrau coleg
Mae sawl ffordd y gallwn dy helpu cyn dechrau dy astudiaethau gyda ni. Mae hyn yn cynnwys cyngor ac arweiniad, yn ogystal â chynlluniau pontio pwrpasol i ateb dy anghenion unigol.
Isod mae rhai o’r ffyrdd y gallwn dy gynorthwyo wrth i ti bontio i Goleg Gŵyr Abertawe:
- Presenoldeb mewn adolygiadau ysgol
- Teithiau rhithwir
- Teithiau ac ymweliadau â’r Coleg
- Cyfarfodydd gyda thiwtoriaid
- Digwyddiadau agored
- Sgyrsiau a theithiau hygyrch
- Cymorth mewn cyfweliad
- Diwrnodau blasu.
Cofia ein gwahodd i dy adolygiad, e-bostia: transition@gcs.ac.uk.
Cymorth yn nyddiau cynnar y coleg
Bydd ein tîm yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn parhau i dy gynorthwyo wrth i ti ddod i arfer â bywyd coleg. Rydyn ni’n deall bod yr wythnosau cyntaf yn gallu teimlo’n llethol, ac felly byddwn yn gweithio gyda ti i wneud yn siŵr dy fod ti’n cael y cymorth iawn. Gall hwn gynnwys:
- Cyflwyniad trylwyr i dy helpu i ganfod dy ffordd o gwmpas y Coleg
- Staff y gelli di gysylltu â nhw am gymorth
- Mynediad at fentoriaid neu gyfeillion cyfoedion
- Sesiynau rheolaidd gyda’r Tîm Cymorth Dysgu
- Cymorth gyda hyfforddiant teithio os bydd ei angen
- Help i drefnu dy waith, amserlenni, neu gael gafael ar adnoddau
- Sesiynau grwpiau bach i fagu hyder ac annibyniaeth.
Ein nod yw gwneud y pontio mor llyfn â phosib, fel y gelli di deimlo’n hyderus, yn gyfforddus ac yn barod i lwyddo.
Cymorth ar ôl y coleg
Byddwn ni hefyd yn dy gynorthwyo wrth i ti gymryd dy gamau nesaf ar ôl coleg gan gynnig help gyda’r canlynol:
- Adolygiadau amlasiantaeth
- Cyfeiriadau at asiantaethau allanol
- Cyngor ar Lwfans i Fyfyrwyr Anabl a chymorth arall ar gyfer addysg uwch a chyflogaeth.
Ar bob cam, ein nod yw sicrhau dy fod yn teimlo dy fod yn cael cymorth, gwybodaeth ac yn barod at y dyfodol.