Nodyn atgoffa: Bydd unrhyw gofrestriadau neu ymholiadau a wneir ar ôl dydd Gwener 20 Rhagfyr yn cael eu prosesu unwaith y bydd y Coleg wedi ailagor ar ddydd Llun 6 Ionawr. Diolch am eich dealltwriaeth.
Prentisiaethau
Coleg Gŵyr Abertawe yw un o’r prif ddarparwyr Prentisiaethau yng Nghymru, ac rydym yn cynnig ystod eang o raglenni prentisiaethau arobryn yng Nghymru a Lloegr.
Mae prentisiaethau yn gyfle i chi ennill profiad ymarferol yn y byd go iawn wrth ddatblygu sgiliau sy’n benodol i’ch proffesiwn dewisol. Fel prentis, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan feithrin y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Gall pobl o bob oedran ymgymryd â phrentisiaethau, cyn belled â’u bod mewn cyflogaeth am o leiaf 16 awr yr wythnos. Gallwch ddewis lefel prentisiaeth sy’n addas i chi trwy ddechrau ar lefel sylfaen, cyn cael cyfle i symud ymlaen i lefel uwch rheoli.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni prentisiaeth unigryw yn Lloegr, ac er ein bod wedi ein lleoli yn Abertawe, mae gennym staff ymroddedig yn Lloegr sy’n darparu hyfforddiant prentisiaeth mewn Rheoli Cyfleusterau, Arwain a Rheoli, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Gwelliant Parhaus yn ogystal â chyrsiau trydanol, Gwasanaeth Cynnyrch Electronig a Pheirianneg Gosod.
Trwy gynnal cyswllt uniongyrchol â’r Asiantaeth Ariannu Addysg a Sgiliau (ESFA), ynghyd â'n perfformiad cryf yn arolygiad prentisiaethau Ofsted, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi’i restru ar Fframwaith Prentisiaethau Cenedlaethol Salisbury, at ddibenion caffael a chontractio cyhoeddus.
Llwybrau prentisiaethau
Rydym yn cynnig mwy nag 82 o lwybrau prentisiaeth, yn amrywio o brentisiaethau Lefel 2 i brentisiaethau lefel gradd. Mae gennym lwybrau ar gael ym meysydd Arwain a Rheoli, Digidol, Gwaith Coed, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a llawer mwy!
Swyddi Prentisiaethau Gwag
Prentis Cyfreithiol
Cyfraddau prentisiaethau (manylion am gyfraddau)
Dezrezlegal
SA1
Wedi cau
Dim gofynion mynediad. Mae meddu ar TGAU mewn TGCh, Saesneg a Mathemateg yn ddymunol. Ni fydd unigolion â gradd yn y pwnc hwn yn gymwys i astudio’r brentisiaeth hon. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyfreithiol.
Prentis Cynorthwyydd Addysgu
Cyfraddau prentisiaethau (manylion am gyfraddau)
Ysgol Gynradd Casllwchwr
Casllwchwr
Wedi cau
Dim gofynion mynediad. Bydd y rhai sydd â gradd yn y maes hwn yn dal i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth ar y lefel hon. Ar ôl ei chwblhau’n llwyddiannus, byddwch yn cyflawni cymhwyster Cefnogi Dysgu ac Addysgu Lefel 2 a/neu Lefel 3.
Prentis Gweinyddu Prosiect (TG)
Cyfraddau prentisiaethau (manylion am gyfraddau)
Pisys.net
Fforestfach
Rhagfyr 2024
Dim gofynion mynediad – mae gradd A-C mewn TGAU TGCh a Saesneg yn ddymunol. Yn ddelfrydol byddwch yn dilyn cymhwyster TG, Gweinyddu Busnes neu faes perthynol ar hyn o bryd neu wedi ei gwblhau’n ddiweddar. Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y brentisiaeth hon os oes gennych radd yn y maes pwnc hwn. Ar ôl ei chwblhau’n llwyddiannus byddwch yn ennill cymhwyster Gweinyddu Busnes Lefel 2 neu 3.
Gweithiwr TG Dan Hyfforddiant (Sifft Nos)
£24,497
Macmillan Distribution
Pontarddulais
Rhagfyr 2024
Dim gofynion mynediad penodol, ond byddai meddu ar gymhwyster / profiad TG yn fuddiol. Gall y brentisiaeth hon fod yn briodol i unigolion sydd â gradd yn y pwnc hwn. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn sicrhau cymhwyster lefel 2/3 mewn Gweithwyr Telathrebu Proffesiynol.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18+ a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio ar y safle o ddydd Sul i ddydd Iau, 8pm-4am. Efallai bydd angen i chi ymgymryd â thasgau amrywiol yn ystod sifftiau pan fydd materion allweddol yn codi, ond ni fydd hyn yn digwydd yn aml.
Straeon Llwyddiant
Yn ystod y saith mlynedd diwethaf, mae 2,996 o ddysgwyr wedi cwblhau prentisiaethau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Clywch beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud!
Cliciwch y botwm ar ochr dde uchaf y fideo i weld mwy.
Gwobrau Prentisiaethau
Cynhaliwyd Gwobrau Prentisiaethau eleni ar ddydd Llun 5 Chwefror 2024.
Manteision prentisiaethau
Bydd darpar brentisiaid yn elwa mewn nifer o ffyrdd gwahanol drwy astudio prentisiaeth gyda’r Coleg, gan gynnwys:
- Ennill profiad ymarferol yn y byd go iawn
- Ennill cyflog wrth ymgymryd ag astudiaethau a hyfforddiant
- Cymorth gan diwtoriaid/aseswyr sydd â phrofiad helaeth o fewn y diwydiant
- Ennill cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant
- Mynediad i'n gwasanaethau llyfrgell, yn ogystal â Smart Assessor
- Mynediad i Ganolfan Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe, yn ogystal ag aelodaeth am bris gostyngol
- Prisiau gostyngol ar gyfer gwasanaethau a gynigir gan ein Canolfan Gwallt, Harddwch a Holistig (Broadway)
- Cymhwysedd i wneud cais am gerdyn myfyriwr prentisiaid NUS
- Mynediad at adnoddau dysgu Moodle a Canvas
Buddion i gyflogwyr
Trwy weithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe, bydd cyflogwyr yn elwa o:
- Well gynhyrchiant gweithwyr
- Gwell perfformiad ac ysbryd tîm
- Gwell sgiliau mewnol o fewn y cwmni
- Mynediad at lwybrau cyllid a grantiau
- Costau hyfforddi a recriwtio is
- Y gallu i lenwi bylchau mewn sgiliau trwy recriwtio staff newydd neu uwchsgilio staff presennol
Is-gontractwyr
Rydym yn ymgysylltu ag is-gontractwyr i ateb anghenion cwsmeriaid yn well ac i wneud y canlynol:
- Gweithio gyda darparwyr sy’n cyrraedd dysgwyr â blaenoriaeth yn effeithiol yn y gymuned ac sy’n gallu dangos canlyniadau cadarnhaol
- Darparu mynediad i/ymgysylltiad ag ystod newydd o gwsmeriaid
- Cynorthwyo darparwr arall i ddatblygu gallu/ansawdd
- Rhoi darpariaeth ychwanegol
- Gweithio gyda darparwyr sy’n cynnig blaenoriaethau sy’n benodol i’r sector gan gefnogi agendâu sgiliau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
- Bydd yr holl is-gontractwyr yn destun diwydrwydd dyladwy y Coleg.
Mae’r Coleg yn cadw ffi reoli sy’n talu cyfran o’r costau uniongyrchol sy’n gysylltiedig â gweithredu a sicrhau ansawdd darpariaeth is-gontractwyr.
Os yw’r is-gontractwr yn is-gwmni i Goleg Gŵyr Abertawe, bydd taliadau gwasanaeth yn cael eu cymhwyso drwy broses gyllidebu flynyddol safonol y Coleg. Mae hyn yn adlewyrchu’r is-gwmni fel un o unedau busnes mewnol y Coleg ac felly, codir tâl canolog am wasanaethau megis llywodraethu, ansawdd a chydymffurfio.
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25, ni fydd Coleg Gŵyr Abertawe yn is-gontractio i unrhyw ddarparwyr eraill (Lloegr yn unig).
Cafodd Polisi Ffioedd a Thaliadau Is-gontractio DSW 2024/25 ei gymeradwyo yng nghyfarfod Bwrdd Corfforaeth y Corff Llywodraethu ar 27 Mehefin 2024.
Anrhydeddau
Anrhydeddau
Yn ddiweddar, enillodd Coleg Gŵyr Abertawe wobr Ehangu Cyfranogiad yng ‘Ngwobrau Beacon’ Cymdeithas y Colegau 2023/24. Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchiad o fenter ‘Prentisiaethau i Bawb’ llwyddiannus y Coleg a’i effaith gadarnhaol ar gynyddu niferoedd recriwtio a chyfraddau cyflawniad prentisiaid ag anableddau, anghenion dysgu ychwanegol, cyflyrau iechyd corfforol neu feddwl.
Yn 2022/23, fe enillodd Coleg Gŵyr Abertawe Wobr Beacon ar gyfer Rhyngwladoldeb, o ganlyniad i’r amrywiaeth eang o fentrau a gynigir i ddatblygu ein dysgwyr, staff, cyflogwyr a chymunedau.
Hefyd yn 2022 fe enillodd y Coleg ddwy wobr yng Nghynhadledd Prentisiaethau Flynyddol y DU:
- Darparwr Prentisiaeth Iechyd a Gofal y Flwyddyn 2022
- Hyrwyddwr SEND y Flwyddyn (Darparwr) 2022
Ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth Rachel Jones, Cyfarwyddwr Dysgu Seiliedig ar Waith Coleg Gŵyr Abertawe ennill Gwobr Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru (categori Sgiliau).
Enillodd y Coleg wobr Times Educational Supplement AU (TES) yn 2021 ar gyfer Rhaglen Brentisiaeth y flwyddyn.
Cawsom ein coroni hefyd yn enillwyr mewn dau gategori yng Ngwobrau AAC Blynyddol y DU yn 2021.
- Darparwr Prentisiaeth Digidol y Flwyddyn 2021
- Darparwr Prentisiaeth Peirianneg a Gweithgynhyrchu y Flwyddyn 2021
Yn ogystal, fe wnaethom ennill dwy wobr yng Ngwobrau AAC DU yn 2019
- Darparwr Prentisiaethau Iechyd a Gwyddoniaeth y Flwyddyn 2019.
- Cyfraniad Rhagorol i Ddatblygiad Prentisiaethau, Steve Williams 2019.
Cwestiynau Cyffredin
Cyfle i ddysgwyr ennill hyfforddiant ymarferol yn y byd go iawn wrth sicrhau cymhwyster cydnabyddedig.
Fel prentis, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan feithrin y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Dim o gwbl. Gall weithwyr proffesiynol profiadol ddefnyddio prentisiaethau i uwchsgilio a datblygu eu gyrfa. Rhaid i chi fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yr wythnos yng Nghrymu.
Bydd hyd pob prentisiaeth yn amrywio yn dibynnu ar lefel y cymhwyster. Ond fel arfer, bydd prentisiaeth yn cymryd 12-24 mis i’w gwblhau.
Byddant yn dechrau unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond, efallai bydd rhai cyrsiau yn dechrau ym mis Medi, yn unol â’r flwyddyn academaidd.
Ymgeisio am Brentisiaeth
Gallwch nawr wneud cais i astudio prentisiaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am brentisiaethau, cysylltwch â ni: training@gcs.ac.uk - 01792 284400