Skip to main content
Swansea Bay

Llywodraethu

Mae ein Bwrdd y Gorfforaeth, neu’r Corff Llywodraethu, yn gyfrifol am gyfeiriad strategol a pherfformiad ariannol y Coleg.

Mae ei gyfrifoldebau llawn, ei aelodaeth, gwybodaeth am ei weithdrefnau a sut mae’n cynnal ei fusnes i’w gweld yn yr Offeryn a’r Erthyglau Llywodraethu.

Mae aelodau’r Bwrdd yn amrywiol ac yn cynnwys aelodau allanol sy’n dod o nifer o feysydd gan gynnwys busnesau lleol, addysg, y gymuned a phroffesiynau eraill. Mae’r Prif Weithredwr, Pennaeth, dau fyfyriwr a dau aelod o staff hefyd yn aelodau.

Mae’r Bwrdd yn cwrdd o leiaf chwe gwaith y flwyddyn ac mae nifer o bwyllgorau (Archwilio, Cwricwlwm ac Ansawdd, Cyllid, Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol, Profiad y Dysgwr, Cyflogau, a Chwilio a Llywodraethu) sy’n edrych ar feysydd penodol y Coleg yn ei gynorthwyo yn ei waith.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae Bwrdd y Coleg wedi penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd.

Mr Meirion Howells – Cadeirydd

Roedd Meirion wedi gwasanaethu fel aelod o fwrdd Clwb Rygbi Abertawe am 41 mlynedd, yn ddiweddarach fel ysgrifennydd. Roedd hefyd yn ysgrifennydd Grŵp Clybiau Premier URC. Hyfforddodd fel syrfëwr meintiau a gweithiodd i gwmnïau adeiladu yng Nghymru a Lloegr. Roedd yn rheolwr gyfarwyddwr cwmni adeiladu mawr cyn sefydlu ymgynghoriaeth rheoli prosiectau ym 1994. Roedd gwerth prosiectau’r cwmni yn amrywio rhwng £100k a £10m ledled y DU a thramor.

Mae wedi gwasanaethu fel llywodraethwr mewn ysgol gynradd Gymraeg ac ysgol uwchradd Gymraeg. Roedd hefyd yn aelod o Bwyllgor Safonau Tân Gorllewin Cymru a Phwyllgor Safonau Dinas a Sir Abertawe am wyth mlynedd, y ddwy flynedd ddiwethaf fel Cadeirydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Fwrdd y Gorfforaeth neu faterion llywodraethu, os hoffech weld yr Offeryn a’r Erthyglau Llywodraethu, cylch gorchwyl pwyllgorau neu’r gofrestr o ddiddordebau aelodau, neu os hoffech fod yn aelod, cysylltwch â Amanda Kirk, Clerc Bwrdd y Gorfforaeth, ar 01792 284000 neu anfon e-bost ati enquiries@gcs.ac.uk

Hysbysiad Preifatrwydd Coleg Gŵyr Abertawe

Meini Prawf Cymhwysedd ar gyfer aelodau’r Bwrdd

Aelodau Bwrdd y Gorfforaeth 2023

Pwyllgorau 2023

Cyfarfodydd 2023

Offeryn ac Erthyglau Llywodraeth