Byw’n Annibynnol
Mae’r cwrs Gwreiddiau wedi’i gynllunio i helpu dysgwyr i feithrin sgiliau bywyd hanfodol a hyder i fyw bywyd mor annibynnol ag sy’n bosib. Trwy gynnig dulliau personol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gallwn helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau ymarferol, hunanymwybyddiaeth a hyder cymdeithasol, gan eu grymuso i ddatblygu ar eu cyflymder eu hunain mewn amgylchedd cefnogol.
Fel rhan o raglen Taith i Ddilyniant, rydym yn gweithio gyda’n gilydd i gefnogi a datblygu unigolion a dysgwyr ar hyd eu teithiau unigryw tuag at annibyniaeth, cyflogaeth neu ddilyniant llwyddiannus. Trwy ddefnyddio dulliau dysgu sy’n canolbwyntio ar gyrchfannau personol, rydym yn cynnig cymorth a datblygiad personol, yn ogystal ag ysgogi dysgwyr i archwilio cyfleoedd, cyflawni twf a gwireddu eu huchelgeisiau.
Nod Dyfodol Cynhwysol yw ysbrydoli dysgwyr i gymryd camau ystyrlon tuag at annibyniaeth a magu hyder. Trwy ddefnyddio ymagwedd bersonol, rydym yn ffocysu ar ddatblygu sgiliau bywyd ymarferol sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer heriau go iawn. Ochr yn ochr â chwricwlwm sydd wedi’i deilwra ac opsiwn i astudio cyrsiau llythrennedd a rhifedd ar wahân neu yn integredig, gall dysgwyr ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i fyd gwaith, addysg bellach neu waith annibynnol. Mae’r cwrs hwn yn cynnig amgylchedd cefnogol lle gall unigolion archwilio cyfleoedd a diwallu eu nodau.
I fod yn gymwys ar gyfer ein rhaglen Camau, bydd dysgwyr eisoes wedi astudio cwrs o fewn yr adran SBA am flwyddyn o leiaf. Mae’r cwricwlwm wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion ac uchelgeisiau amrywiol bob dysgwr, gan sicrhau bod yr holl ddysgu yn cyd-fynd â’u targedau a’u cyrchfannau personol. Trwy gynnig ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, bwriad y cwrs yw arwain a helpu dysgwyr i gyflawni dilyniant mewn perthynas â: chyflogaeth, interniaeth â chymorth neu gyrsiau Lefel un prif ffrwd.
Mae’r Rhaglen Interniaeth â Chymorth wedi’i chynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 ag anghenion dysgu ychwanegol yn eu blwyddyn olaf yn y Coleg. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar yr unigolyn, cyrchfannau unigol ac mae’n hwyluso’r broses bontio o’r Coleg i fyd gwaith. Bydd y dysgwyr wedi’u lleoli yn y gweithle yn bennaf, lle byddan nhw’n datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol trwy brofiadau go iawn.
Bwriad y cwrs yw magu hyder, cymhwysedd ac annibyniaeth, gan annog dysgwyr i symud i fyd gwaith yn llwyddiannus. Bydd sesiynau yn yr ystafell ddosbarth yn ychwanegu at y profiad hwn trwy gynnig cyfleoedd dysgu strwythuredig sy’n cwmpasu themâu allweddol, gyda phwyslais penodol ar gyflogadwyedd.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â 01792 284000.