Skip to main content

Cymorth Gyrfa

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn deall pwysigrwydd paratoi ein myfyrwyr ar gyfer dyfodol llwyddiannus. Dyna pam mae gennym dimau ymroddedig i’ch helpu i wella eich cyflogadwyedd neu fynd â’ch busnes i’r lefel nesaf. Bydd ein timau arbenigol yn gweithio’n agos gyda chi i nodi eich cryfderau, datblygu eich sgiliau, a’ch rhoi mewn cyswllt â chyflogwyr neu bartneriaid posibl, gan roi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi neu’r tirlun entrepreneuraidd.

Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn cynnig cymorth cyflogadwyedd cynhwysfawr i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe.

Mae’r rhaglen hon yn darparu cyngor a chymorth wedi’u targedu ar opsiynau prentisiaeth, yn ogystal â mynediad at gymorth cyflogadwyedd parhaus. Yn ogystal, gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol helpu myfyrwyr i ddod o hyd i waith rhan-amser wrth iddynt ddilyn eu hastudiaethau.

 

Menter CGA

P’un a oes gennych syniad busnes, eisoes yn berchen ar fusnes, neu eisiau dysgu mwy am fyd menter, gall Menter CGA helpu.

Maen nhw’n rhoi offer a chyfleoedd i fyfyrwyr fel y gallant ddatblygu eu sgiliau menter, cysylltu ag asiantaethau allanol, a chyflawni eu potensial llawn. Trwy sesiynau menter diddorol, gweithdai pwrpasol, a modelau rôl ysbrydoledig, mae Menter CGA yn annog amgylchedd lle gall myfyrwyr archwilio eu diddordebau, ennill profiad gwerthfawr, a gwireddu eu syniadau.

Trwy ein cymorth cynhwysfawr, cewch fynediad i amrywiaeth o adnoddau a cyfleoedd i’ch helpu i gyflawni eich nodau gyrfaol. O arweiniad gyrfaol a mentoriaeth i ddigwyddiadau rhwydweithio a chysylltiadau â diwydiant, byddwn ni’n rhoi’r arfau a’r arbenigedd sydd eu hangen arnoch i lwyddo. P’un a ydych am sicrhau swydd, dechrau eich busnes eich hun, neu dyfu busnes sydd eisoes gennych, bydd ein timau ymroddedig gyda chi bob cam o’r ffordd.