Rhaglen lwyddiannus sydd, am ddau ddegawd, wedi rhoi cyngor a chymorth unigol i’r rhai sydd am wneud cais i sefydliadau blaenllaw ledled y DU.
Mae’r rhaglen wedi rhoi’r cyfle gorau posibl i fyfyrwyr baratoi i gael eu derbyn gan Brifysgol Rhydychen, Prifysgol Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group eraill. Mae’r rhaglen paratoi ar gyfer Rhydgrawnt yn rhaglen diwtorial wythnosol sy’n rhedeg ochr yn ochr â’n hastudiaethau Safon Uwch.
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys ymweliadau â Phrifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Rhydychen, lle bydd myfyrwyr yn cael cyngor a chyfarwyddyd ar geisiadau. Bydd myfyrwyr yn aros mewn neuaddau preswyl a bydd ganddynt fynediad uniongyrchol at diwtoriaid derbyn y prifysgolion a all roi cyngor ar yr hyn sydd ei angen i fod yn fyfyriwr Rhydgrawnt. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i grwydro’r brifysgol a’r ardal leol.
Mae 68 o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael eu derbyn i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn y saith mlynedd diwethaf – nifer ragorol o un sefydliad.
Mae gofynion mynediad penodol a chostau yn gysylltiedig â’n rhaglen Rhydgrawnt. E-bostiwch international@gcs.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Uchafbwyntiau’r Rhaglen:
- Cyfweliadau paratoi gyda chynfyfyrwyr Rhydgrawn
- Cyfweliadau paratoi gyda chynfyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe sydd ar hyn o bryd yn astudio yn Rhydgrawnt neu wedi graddio o Rydgrawnt
- Paratoi ar gyfer prawf gallu: UKCAT, BMAT a STEP
- Ymweliadau dros nos â Phrifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Rhydychen
- Sesiynau tiwtorial wythnosol
"Rwyf wedi mwynhau fy amser yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn fawr. Mae'r gefnogaeth a gynigir i fyfyrwyr ac ansawdd y darlithoedd yn rhagorol ac mae'r awyrgylch yn gyffredinol yn gyfeillgar iawn. Helpodd Rhaglen Oxbridge fi gymaint gyda fy nghais i lawer o brifysgolion gorau’r DU ac, yn arbennig, gyda’m cais i astudio Mathemateg yng Nghaergrawnt."
Haolin Wu, Tsieina
Enillodd 4 gradd A* mewn Economeg, Ffiseg, Cemeg a Mathemateg. Symudodd ymlaen i Goleg yr Iesu, Prifysgol Caergrawnt i astudio Economi Tir.