Undeb y Myfyrwyr
Yn cael ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr, mae ein Hundeb y Myfyrwyr yma i’ch cynrychioli chi. Rydym yn hyrwyddo llais y dysgwr, ac felly mae eich cyfraniad yn hanfodol i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau fel myfyriwr. Gallech fod yn rhan o Grŵp Rheoli Undeb y Myfyrwyr hyd yn oed a helpu i lunio dyfodol y Coleg.
Unwaith y byddwch yn cofrestru fel ymadawr ysgol, yn awtomatig rydych yn aelod o Undeb y Myfyrwyr a gallwch siarad â ni am unrhyw broblemau a allai fod gennych.
Undeb Myfyrwyr Arobryn
Rydyn ni’n undeb myfyrwyr arobryn, a enillodd dwy wobr fawr yng Nghynhadledd UCM Cymru yn ddiweddar:
- Undeb Coleg AB y Flwyddyn
- Ymgysylltiad Aelodau y Flwyddyn.
Archwilio Gweithgareddau Undeb y Myfyrwyr
Clybiau a Chymdeithasau
Mae gennym amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau yn y Coleg gyda llawer o feysydd diddordeb gwahanol gan gynnwys cynaliadwyedd, LHDTC+, Dwnsiynau a Dreigiau a sesiynau dadlau.
Mae ymuno â chymdeithas yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd a mwynhau cyfleoedd cyffrous! Cymerwch ran mewn:
- Sesiynau pitsa a pheintio yn ein clwb Affro-Caribïaidd
- Ffilmiau Dydd Mercher ein cymdeithas LGBTQIA (sy’n cynnwys popcorn am ddim)
- Cyfleoedd anhygoel fel darn byw'r Clwb Ffeministiaeth gyda BBC Cymru
a llawer mwy!
Fel arweinydd clwb, mae’ch gwaith caled yn cael ei gydnabod ar ddiwedd y flwyddyn gyda gwobr ‘Cymdeithas y Flwyddyn’.
Digwyddiadau
Cadwch lygad allan am ddigwyddiadau cyffrous i fyfyrwyr ac wythnosau â thema drwy gydol y flwyddyn!
Mwynhewch stondinau crefftau a bwyd, wythnosau â thema yn y ffreutur, nwyddau am ddim, siopau ail-law dros dro, digwyddiadau codi arian ar gyfer elusennau, a digwyddiadau cymdeithas, fel:
- Ffair y Glas
- Lles Egnïol
- a mwy!
Cysylltwch â chynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr os oes gennych syniad am ddigwyddiad!
Iechyd Rhywiol
Angen cyngor cyfrinachol ar atal cenhedlu, brechiadau, neu brofion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol?
Mae ein Cynghorwyr Iechyd Myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys:
- Atal cenhedlu
- PrEP a PEP: Amddiffyn eich hun rhag HIV gyda phroffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP) neu broffylacsis ôl-gysylltiad (PEP)
- Brechiadau yn erbyn Hepatitis B a HPV
- Profion sgrinio heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
Gofal cyfrinachol, anfeirniadol! Cysylltwch â Daisy Mitchell neu Angela Warren.
I wybod rhagor am y cymorth arall sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ewch i’n tudalen cymorth..
Disgowntiau i Fyfyrwyr
Wrth ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe, cewch fynediad awtomatig i wefannau ac apiau disgownt i fyfyrwyr.
Trwy gofrestru ar gyfer cerdyn TOTUM, gallwch gael disgownt ar eich hoff frandiau, cael cerdyn adnabod am ddim ac os byddwch yn cofrestru ar gyfer mynediad premiwm, mae arian o’ch cofrestriad yn mynd yn syth i’n Hundeb y Myfyrwyr.
Ymgyrchoedd Ymwybyddiaeth
Mae Undeb y Myfyrwyr yn rhedeg nifer o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth bob blwyddyn i fyfyrwyr a’r gymuned ehangach. Mae’r rhain wedi cynnwys ymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr, mentrau cynaliadwyedd amgylcheddol, a digwyddiadau eiriolaeth iechyd meddwl.