Porth Staff / Myfyrwyr
Mae’r Porth yn rhoi mynediad hawdd i systemau’r Coleg ar y we.
Yma gall myfyrwyr a staff gyrchu adnoddau megis Moodle, e-CDU a Gwebost y Coleg.
Moodle
Drwy amgylchedd rhithwir y Coleg gall dysgwyr gyrchu adnoddau sy'n gysylltiedig â'u cwrs a llawer mwy, er mwyn i'r dysgu barhau y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Adnoddau yn cynnwys:
- Cwrs ar-lein penodol gyda gwybodaeth am gyrsiau ac adnoddau cwricwlwm
- Gwasanaethau’r Llyfrgell (gan gynnwys, chwilio'r llyfrgell a dolenni i e-Lyfrau, e-Gyfnodolion a phapurau newydd)
- Sgiliau Astudio
- Llawlyfr y Myfyriwr
- All About Me
- Dolenni defnyddiol.
Cyrchu Moodle
Mewngofnodwch i Moodle drwy ddefnyddio eich enw defnyddiwr a’r cyfrinair a ddefnyddir i fewngofnodi i gyfrifiaduron personol yn y Coleg.
Problemau mewngofnodi?
Os ydych chi'n cael problem wrth fewngofnodi i Moodle, cysylltwch â:
issues.loggingon@gowercollegeswansea.ac.uk
Ffôn: 01792 284082
Efallai yr hoffech chi weld y Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen cymorth mewngofnodi
Microsoft 365 i Staff a Myfyrwyr
Fel aelod o staff neu fyfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae gennych fynediad i Microsoft Office 365.
I gyrchu’r adnodd hwn, bydd angen cyfrif rhwydwaith coleg gweithredol arnoch.
Mewngofnodi Myfyrwyr
Gall myfyrwyr fewngofnodi i 365 trwy ddefnyddio EichEnwDefnyddiwr@stu.gcs.ac.uk ynghyd â’ch cyfrinair coleg.
e.e. bes12240123@stu.gcs.ac.uk
Mewngofnodi Staff
Gall staff fewngofnodi i 365 gan ddefnyddio EichEnwDefnyddiwr@gcs.ac.uk a’ch cyfrinair coleg.
e.e. j.pearce@gcs.ac.uk
Microsoft 365
Swyddfa Rithwir Staff
Mae'r Swyddfa Rithwir yn darparu mynediad diogel i'r Rhyngrwyd i ddefnyddwyr o bell sy'n gallu mewngofnodi a chyrchu adnoddau rhwydwaith preifat drwy dechnoleg SSL-VPN.
Gweld rhestr o’r adnoddau sydd ar gael ar y VPN.
O 20 Ionawr 2023, mae porth staff newydd wedi cael ei lansio i bob aelod o staff. Cliciwch yma i wylio fideo ar sut i fewngofnodi ac yna gallwch gael mynediad i’r porth staff yma.
Fy e-CDU
Drwy'ch e-CDU (cynllun dysgu unigol electronig) gall myfyrwyr gyrchu amrywiaeth o gyfleusterau a gwybodaeth gan gynnwys:
- Cynnydd academaidd
- Targedau
- Presenoldeb
- Amserlen
- Negeseuon a hysbysiadau'r Coleg.