Os oes angen cymorth arnoch i fewngofnodi i un o systemau Coleg Gŵyr Abertawe e.e. Moodle neu Webost (naill ai yn y Coleg neu y tu allan i’r Coleg) edychwch ar y cwestiynau cyffredin isod.
Noder: Dim ond os ydych wedi mewngofnodi o’r blaen a gosod cwestiynau ac atebion diogelwch drwy'r dudalen hon y gallwch ddefnyddio’r offeryn ailosod cyfrinair. Os ydych wedi anghofio’ch cyfrinair neu os nad ydych wedi cael un drwy neges destun, cysylltwch â cshelpdesk@gcs.ac.uk neu ffoniwch Wasanaethau Cyfrifiadurol ar 01792 284082 fel y gellir cynhyrchu un newydd.
Cwestiynau Cyffredin
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod wedi galluogi Cwcis yn eich porwr rhyngrwyd (e.e. Google Chrome, Internet Explorer) gan fod Moodle yn mynnu eu bod yn cael eu galluogi ar gyfer mewngofnodi.
Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n aelod staff newydd bydd angen i chi fewngofnodi i gyfrifiadur personol y Coleg er mwyn newid eich cyfrinair am y tro cyntaf.
Os cewch unrhyw broblemau pellach rhowch gynnig ar newid eich cyfrinair neu ffoniwch yr adran Gwasanaethau Cyfrifiadurol ar 01792 284000.
Ar hyn o bryd mae ychydig o ffyrdd o wneud hyn.
- Newid eich cyfrinair neu ailosod eich cyfrinair ar-lein.
- Mewngofnodi i gyfrifiadur rhwydwaith coleg gyda’ch enw defnyddiwr cyfredol a’ch cyfrinair sydd wedi dod i ben. Yna gallwch newid eich cyfrinair trwy wasgu Ctrl + Alt + Delete a dewis ‘Newid Cyfrinair’.
- Os yw’ch cyfrinair yn dal i fod yn gyfredol - h.y. nid yw wedi dod i ben - gallwch fewngofnodi i e-bost allanol y Coleg a newid eich cyfrinair trwy’r adran Opsiynau.
Os ydych wedi anghofio’ch cyfrinair bydd angen i chi gysylltu â cshelpdesk@gcs.ac.uk neu ffonio 01792 284082 a bydd un o’r tîm yn hapus i’ch cynorthwyo.