Skip to main content
Part time students

Sut i wneud cais (rhan-amser)

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’n llenwi’n gyflym felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais yn gynnar i osgoi cael eich siomi.

Bydd y ffordd y byddwch yn gwneud cais a chofrestru yn dibynnu ar y math o gwrs rhan-amser a ddewiswch.

Ar gyfer cyrsiau addysg uwch / prifysgol, , rhaid i chi wneud cais trwy’r botwm 'Gwneud cais (rhan-amser)' ar dudalen wybodaeth y cwrs perthnasol.

Ar gyfer cyrsiau ein braich hyfforddiant busnes (Hyfforddiant GCS) bydd rhaid ffonio 01792 284400 i ymholi a chadw lle.

Ar gyfer yr holl gyrsiau rhan-amser, eraill dilynwch y dolenni ar waelod y dudalen y cwrs perthnasol:

  • Dilynwch y botwm ‘Cofrestrwch Yma’ i gofrestru ar y cwrs
  • Os hoffech gofrestru at mwy nag un cwrs rhan-amser, dilynwch y botwm ‘Ychwanegu at y fasged’
  • Dilynwch y botwm ‘Y fasged’ i weld pa gyrsiau rhan-amser rydych chi wedi’u hychwanegu at eich basged ac i gofrestru arnyn nhw.

Pan fydd angen cyfweliad, cliciwch ar 'Trefnu cyfweliad dros y ffôn'. Bydd tîm y cwrs yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.

Os byddwch chi’n gwneud cais yn ystod gwyliau’r haf, mae’n bosibl na fydd ein staff addysgu yn cysylltu â chi cyn 20 Awst 2024.

Bydd eich cyfweliad yn digwydd dros y ffôn fel arfer. Byddwn ni’n anfon dolen ddiogel atoch er mwyn cofrestru yn dilyn eich trafodaeth â’r tîm cwricwlwm. Neu, dewch i siarad â ni yn ein nosweithiau agored.

Os hoffech gofrestru yn bersonol, dewch i Gampws Tycoch rhwng 9am a 4.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener yn ystod amser y tymor.

Rhaid bod dysgwyr yn 16 oed neu hŷn er mwyn cofrestru ar un o’n cyrsiau rhan-amser. 

Yn achos myfyrwyr rhyngwladol, bydd cost y cyrsiau’n dibynnu ar statws preswylio a faint o amser a dreulir yn y DU. Ffoniwch ein swyddfa Ryngwladol ar 01792 284007 neu e-bostiwch international@gcs.ac.uk