Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion, Plant a Phobl Ifanc - Lefel 2
Trosolwg
Cwrs blwyddyn sy’n cyflwyno’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio gydag oedolion, plant a phobl ifanc yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn iechyd a gofal cymdeithasol trwy sesiynau wedi’u haddysgu a lleoliad gwaith.
Gwybodaeth allweddol
Dwy radd C ar lefel TGAU a phortffolio o raddau D-E.
Dros bedwar diwrnod yr wythnos 9:00 – 16:30
Asesu:
Asesiadau dan reolaeth ac arholiad amlddewis
Meini Prawf Graddio:
Pasio/Methu
Yn aros yn y Coleg, gallech symud ymlaen i’r cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3: Egwyddorion a Chyd-destunau neu gyflogaeth/prentisiaethau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd angen i fyfyrwyr gwblhau cais y Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd (DBS) ar ddechrau’r cwrs. Mae’n costio tua £40.