Iechyd a Gofal Cymdeithasol (gwasanaethau Oedolion) Lefel 3 - Prentisiaeth
Trosolwg
Mae’r brentisiaeth hon yn addas i’r rhai sy’n gweithio mewn rolau lle maen nhw’n cefnogi anghenion corfforol, cymdeithasol, emosiynol a deallusol pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth er mwyn byw’n annibynnol mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys gofal preswyl, gofal dydd neu yn eu cartref eu hunain, ac sydd hefyd yn goruchwylio aelodau eraill o staff neu’n cyflawni tasgau cymhleth.
Mae teitlau swyddi enghreifftiol sy’n addas ar gyfer y brentisiaeth hon yn cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol uwch, gweithwyr gofal cartref uwch, gweithwyr cymorth uwch, swyddogion ailalluogi, gweithwyr gofal preswyl/nyrsio uwch, yn ogystal â gweithwyr gofal a chymorth cartref uwch.
Mae’r fframwaith yn cynnwys:
- Cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: Craidd (Oedolion)
- Cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3: Ymarfer (Oedolion)
- Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cyfathrebu (gofyniad sylfaenol)
- Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif (gofyniad sylfaenol)